Ysgolion yw canol y gymuned, yn aml, er nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol gyda'r nos, dros y Sul nac yn ystod y gwyliau. Diben Menter yr Ysgolion Bro yw annog yr ysgolion a'r awdurdodau lleol i ystyried ysgolion yn adnoddau i'r gymuned. Ystyr hyn yw eu defnyddio i ddibenion ychwanegol megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd a gweithgareddau addysgu oedolion yn ogystal â'r clybiau arferol i blant a phobl ifainc.
Yn ôl y gwaith wnaeth WLGA a Llywodraeth Cymru ym mhrosiect 'Cau'r Bwlch', un o brif nodweddion ysgol lwyddiannus yw perthynas agos â'r gymuned ehangach a diben Menter yr Ysgolion Bro yw hwyluso'r berthynas honno. Pan fo ysgol yn ymwneud â phobl ei bro, mae cyrhaeddiad a chymhelliant pawb yn cynyddu er lles y disgyblion.
Mae rhagor am y fenter yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne


