Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Yr heddlu
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Yr heddlu

Police 1

Awdurdodau heddlu

Mae’r awdurdodau heddlu’n gyrff annibynnol sy’n goruchwylio heddluoedd Cymru a Lloegr. Maen nhw’n gweithio gyda’r cymunedau lleol ac ar eu rhan i ofalu bod gwasanaeth plismona o’r radd flaenaf ar gael i’r cyhoedd. Mae cysylltiad cryf rhwng byd llywodraeth leol a heddlu Cymru. Cynghorwyr lleol yw'r rhan fwyaf o aelodau'r awdurdodau heddlu, ynghyd ag aelodau annibynnol y dylai fod o leiaf un ynad yn eu plith.

Mae pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru:

  • Dyfed-Powys: Cadeirydd: Mrs Delyth Humfryes Prif Weithredwr: Mr Keith Reeves
  • Gwent: Cadeirydd: Mrs Cilla Davies Prif Weithredwr: Mrs Shelley Bosson
  • Y Gogledd: Cadeirydd: Mr Alun Lewis Prif Weithredwr: Mr Tal Michael
  • De: Cadeirydd: Cllr Russell Roberts Prif Weithredwr: Mr Alan Fry

Mae pedwar awdurdod heddlu Cymru yn aelodau cyswllt o WLGA ac mae gan bob un aelod yng Nghyngor WLGA, yn ogystal ag aelod sy'n eu cynrychioli nhw i gyd ym Mhwyllgor Cydlynu WLGA.

Awdurdodau Heddlu Cymru (PAW) yw'r corff sy'n cynrychioli awdurdodau'r pedwar heddlu. Dyma ei brif nodau:

  • Ystyried a gweithredu ynghylch materion sy'n berthnasol i blismona yng Nghymru, yn arbennig y rhai sydd o dan reolaeth y Cynulliad
  • Ceisio dylanwadu ar faterion plismona gwladol ar ran yr awdurdodau heddlu a chymunedau Cymru
  • Helpu'r awdurdodau heddlu i gynnal gwasanaethau plismona effeithlon ledled Cymru
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o anghenion yr heddluoedd a swyddogaeth a llwyddiannau eu hawdurdodau
  • Hybu egwyddorion atebolrwydd lleol a phlismona trwy ganiatâd

Y Cyng. Russell Roberts yw Cadeirydd PAW. Swyddog Gweithredol PAW yw Mrs Shelley Bosson. Mae gan PAW ac WLGA swyddog polisïau diogelwch cymunedol, hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth am waith PAW ar ei wefan – cliciwch yma

Awdurdodau heddlu a phartneriaethau diogelwch cymunedol

Mae'r awdurdodau heddlu hefyd yn aelodau o bartneriaethau diogelwch yn y gymuned a gafodd eu sefydlu yn sgîl Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' 1998. Yn ôl y ddeddf, rhaid sefydlu partneriaeth o'r fath yn ardal pob awdurdod lleol a dylai gynnwys cynrychiolwyr yr awdurdod lleol, yr heddlu a'i awdurdod, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub a'r bwrdd iechyd lleol. Roedd rhaid i bob partneriaeth lunio strategaeth ar gyfer diogelwch cymunedau ei hardal bob 3 blynedd yn ogystal â chynllun gweithredu ynghylch cyffuriau ond, yn sgîl Deddf 'Yr Heddlu a Chyfiawnder 2006', rhaid cyhoeddi yn ei le gynllun partneriaeth 3 blynedd i'w adolygu bob blwyddyn yng ngoleuni asesiad strategol blynyddol.

Heddluoedd

Mae pedwar heddlu yng Nghymru:

  • Heddlu Dyfed Powys: Prif Gwnstabl: Mr Ian Arundale
  • Heddlu Gwent: Prif Gwnstabl: Ms Carmel Napier
  • Heddlu’r Gogledd: Prif Gwnstabl: Mr Mark Polin
  • Heddlu’r De: Prif Gwnstabl: Mr Peter Vaughan

Sylwadau a Gweithgareddau WLGA

Mae WLGA yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ynglŷn â gwaith yr heddlu, yn ogystal â buddiannau awdurdodau heddlu Cymru a'i haelodau cyswllt eraill. Yn ogystal â chydnabod y cyswllt sylweddol rhwng yr heddlu a gwasanaethau llywodraeth leol, mae WLGA o'r farn ei bod mewn sefyllfa dda i alluogi'r awdurdodau lleol a'r awdurdodau heddlu (ar eu pennau eu hunain ac o dan nawdd Awdurdodau Heddlu Cymru fel ei gilydd) i weithio ar y cyd o dan ei hadain i gyflawni eu hamcanion unigol a'r rhai sy'n gyffredin iddyn nhw, a gwneud y gorau o'r manteision i'r ddau gorff a'r awdurdodau sy'n perthyn iddyn nhw.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman