18 Chwefror 2009

Mae pennu costau oes gyfan a dadansoddi cylch oes yn ddulliau sy’n nodi faint fydd cost caffael rhyw nwydd neu wasanaeth trwy ystyried y costau ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol sydd i’w priodoli iddo ar hyd ei oes megis ei lunio, ei gynhyrchu, ei ddosbarthu, ei ddefnyddio a chael gwared arno – nid dim ond y pris adeg ei brynu. Trwy ddefnyddio’r dulliau hyn, gallwn ni ofalu ein bod yn asesu, yn deall ac yn rheoli’r costau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.


