06 Medi 2005
Paratowyd “Working Better Together in England” ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd (yr Asiantaeth) a Chymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) fis Rhagfyr 1999. Yng Nghymru, lluniwyd a llofnodwyd “Gweithio’n Well ar y Cyd yng Nghymru” rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fis Medi 20011.
Daeth y sefydliadau i benderfyniad ynghylch nifer o ‘ymrwymiadau’ i wella’r berthynas waith rhwng awdurdodau lleol a’r Asiantaeth. Ymrwymiadau tymor byr oeddynt i gyd, gyda’r nod o adolygu’r ddau gynllun i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau amgylcheddol.
Nod y fersiwn newydd 2003 hwn, sy’n disodli’r Memorandwm Dealltwriaethau blaenorol, yw cyflawni hyn trwy osod yr ystod o Ganlyniadau Amgylcheddol i’w cyflawni’n effeithiol wrth i awdurdodau lleol a’r Asiantaeth gydweithio’n well yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae cyfres o ‘brotocolau’ yn nodi sut mae modd cyflawni hyn trwy eithredu’n lleol, ac yn cefnogi’r cynllun hwn ar gyfer Cymru a Lloegr trwy sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithio technegol ar lawr gwlad.


