18 Chwefror 2009

Brig olew yw’r term sy’n disgrifio pryd y bydd diwydiant cynhyrchu olew’r byd yn cyrraedd ei anterth gan y bydd llai a llai o olew ar gael wedyn. Mae 54 o’r 60 o wledydd sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o olew’r byd wedi cyrraedd y sefyllfa honno yn barod. Dros y byd i gyd, mae adnoddau olew ar fin crebachu ac, o hyn ymlaen, bydd angen mwy a mwy o ynni ac arian i gael gafael ar yr hyn sy’n weddill. Dyw brig olew ddim yn ymwneud â dyfalu pryd y bydd
prinder olew. Mae’n ymwneud ag ystyried y dystiolaeth ddaearegol ynglyˆn â faint sydd ar ôl a chyfleu’r neges na fydd olew rhad a digonol mwyach.


