Mae ansawdd yr amgylchedd yn hanfodol i'n lles cyffredinol am ei fod yn hwyluso popeth sy'n hanfodol i fyw megis bwyd, tanwydd, aer a dŵr yn ogystal â buddion cymdeithasol megis gweithgareddau hamdden, sy'n bwysig i'n hiechyd ni.
Mae cefn gwlad Cymru yn cynnig sawl mantais ynglŷn â hybu datblygu cynaladwy. Mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni rôl bwysig trwy ofalu bod yr adnodd hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n gytbwys er hyfywedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae cyfrifoldebau am ddiogelu'r amgylchedd wedi'u rhannu ymhlith yr awdurdodau lleol (sy'n gyfrifol am ansawdd amgylchedd pob bro), Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n gyfrifol am reoleiddio a gwella'r amgylchedd, yn arbennig afonydd a'r byd diwydiannol) a Llywodraeth Cymru (sy'n rhoi'r arian, y polisïau a'r deddfau ar gyfer gwella).
Mae'r cynghorau'n gwarchod yr amgylchedd lleol trwy reoli parthau o bwys megis yr arfordiroedd a'r traethau, ardaloedd o brydferth naturiol eithriadol, parciau a mannau agored, parciau gwledig a safleoedd treftadaeth. Mae'r cynghorau'n gyfrifol am gadw golwg ar yr amgylchedd trwy wasanaethau monitro a gorfodi mewn meysydd megis ansawdd yr awyr hefyd, yn ogystal â glanhau tir sydd wedi'i ddifwyno. Ymhlith gorchwylion amgylcheddol amlycaf y cynghorau mae cael gwared ar domenni anghyfreithlon, graffiti a sbwriel sydd wedi'i luchio.
Trwy waith y cynghorau ynghylch rheoli hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd allweddol, mae modd i bobl fwynhau'r amgylchedd. Mae'r cynghorau'n gwneud llawer o'r gwaith hwnnw ar y cyd â chyrff megis Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn dros Goedwigaeth. Trwy eu swyddogaeth statudol ym maes cynllunio, mae'r cynghorau'n pennu dibenion tir ac yn rheoli modd ei ddatblygu.
Mae rolau'r strategaeth gymunedol a'r cynllun datblygu lleol yn hanfodol o ran hwyluso'r twf cytbwys y bydd ei angen i ofalu bod cymunedau'n parhau i ffynnu.
Mae awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Eryri a Sir Benfro) yn gyfrifol am gadw prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol 20% o Gymru gan hyrwyddo amryw ffyrdd o ddefnyddio a mwynhau'r parciau hynny.
Dyma rai gorchwylion gwladol a lleol sy'n bwysig ar hyn o bryd:
- Gofalu bod twf cytbwys, er lles cymdeithasol ac economaidd, ond yn ôl meini prawf amgylcheddol.
- Addasu a rheoli'n hymateb ni i oblygiadau'r newid hinsoddol fel y bydd rhagor o gadernid yng Nghymru.
- Lleddfu'n heffaith ni ar yr amgylchedd i rwystro'r hinsawdd rhag newid.
- Deall effaith y newid hinsoddol a'r goblygiadau i'n cymunedau ni.
- Trin a thrafod pryderon am gyflwr rhwydwaith yr hawliau tramwy a chost ei gynnal.
- Gofalu bod cynghorau'n deall effaith eu penderfyniadau nhw ar yr amgylchedd ac yn hybu datblygu cynaladwy.
- Ateb gofyn Deddf 'Yr Amgylchedd Naturiol a'r Cymunedau Gwledig' 2006' i ystyried bioamrywiaeth ym mhopeth mae byd llywodraeth leol yn ei wneud.
- Cynnig amgylchedd lleol glan a bywiog gan gwtogi ar niwsans megis graffiti, tomenni anghyfreithlon a sbwriel.
Ffeithiau allweddol
- Mae 17,000 o swyddi amser llawn yng Nghymru yn ymwneud â defnyddio, rheoli a gwerthfawrogi'r amgylchedd. Mae hynny'n werth £8.8 biliwn i'r wlad bob blwyddyn.
- Mae dros 25% o Gymru yn warchodfeydd o achos y bywyd gwyllt, y dirwedd a'r diwylliant.
- Mae dros 40,000 km o lwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau a chilffyrdd yng Nghymru.
- Ynglŷn â bioamrywiaeth, mae rhai cynefinoedd o bwys yn diflannu ac mae hynny'n achosi pryder mawr am fod bioamrywiaeth yn hanfodol i ecosustem y wlad.
Rhagor o wybodaeth


