Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Gwasanaeth Ieuenctid
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwasanaeth Ieuenctid

Ystyr Gwasanaeth Ieuenctid Cymru yw'r fframwaith ar gyfer cyflawni gwaith ymhlith yr ifainc trwy naill ai'r awdurdodau lleol, y mudiadau gwirfoddol sy'n ymwneud â'r ifainc neu brosiectau annibynnol lleol.

Hanfod gwaith ieuenctid yw addysgu a datblygu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed (yn arbennig y rhai rhwng 13 a 19 oed) o safbwynt cymdeithasol a phersonol fel ei gilydd. Mae gwaith o'r fath yn mynd rhagddo trwy amryw gyfryngau megis: clybiau ieuenctid; canolfannau preswyl; canolfannau hysbysu, cynghori a chwnsela; ar y strydoedd; amryw fannau cyhoeddus lle bydd pobl ifanc yn cwrdd; prosiectau am faterion penodol.

Mae gwaith ieuenctid yn alwedigaeth ac iddi ei fframwaith cymwysterau a'i safonau ei hun. Mae'r awdurdodau lleol yn ymwneud â'r maes ers y 1930au ac mae rôl bwysig iddyn nhw o ran cynnig gwasanaethau cymorth i'r ifainc. 'Pobl ifanc; gwaith ieuenctid, gwasanaeth ieuenctid: Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cymru' yw delfryd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaeth ieuenctid y wlad.

Hanfod y berthynas â phobl ifanc yw eu bod yn ymwneud â hi o'u gwirfodd yn ôl pedwar piler y Datganiad o Gwrícwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru – addysgu, mynegi, cyfranogi a grymuso.

'Mae rôl hanfodol i'r gwasanaeth ieuenctid gwladol ynglŷn â rhoi amrywiaeth helaeth o wybodaeth a chyfleoedd achrededig i bobl ifanc i'w galluogi nhw i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu cymunedau.' Llwybrau Dysgu 14-19, 2004.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie