Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Ymgysylltu â'r cyhoedd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymgysylltu â'r cyhoedd

Yr hyn sydd wrth wraidd yr ymdrech wladol i gynnig gwasanaethau ar gyfer dinasyddion yw ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd a gwahodd cymunedau i helpu i ffurfio, llunio a chomisiynu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r syniad yn rhan annatod o bolisïau gwladol a lleol dros y blynyddoedd. Gan fod rôl allweddol i fyd llywodraeth leol o ran rhoi gwasanaethau cyhoeddus, mae mewn sefyllfa i ymgysylltu ag amrywiaeth helaeth o ddinasyddion a chymunedau ac, yn rhan o'i rôl ynghylch arwain cymunedau, mae'n gallu dod â phob partner at ei gilydd i roi gwasanaethau darbodus yn ôl anghenion y cymunedau hynny.

Dros y blynyddoedd, mae byd llywodraeth leol wedi ceisio gwneud hynny ac mae sawl arfer da ac arloesol lle mae ymgysylltu'n effeithiol wedi helpu i wella gwasanaethau. Mae rhywfaint i'w wneud eto o ran cyfuno ffyrdd o ymgysylltu â'r cyhoedd ond, trwy ledaenu arferion da, datblygu llwyddiant a dysgu gwersi, byddwn ni'n nes at gyflawni hynny. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau i nodi arferion da a dogfennau enghreifftiol i'w hyrwyddo ar y tudalennau hyn.

Mae WLGA yn cydweithio'n agos â Chyfranogiad Cymru, sydd o dan nawdd Llywodraeth Cymru, i helpu'r rhai sy'n rhoi gwasanaethau cyhoeddus i hybu cyfranogi ac ymgysylltu â dinasyddion.

Cyhoeddiadau:

‘Craffu er lles dinasyddion’ – Ymgysylltu â'r cyhoedd ym maes trosolwg a chraffu

Y Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru (Y fersiwn newydd)

Egwyddorion Gwladol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru

Llawlyfr i Ymarferwyr ynghylch Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Dolenni defnyddiol:

Cyfathrebu Cymru

Blogiau:

http://www.citizenspace.com/blog/tag/public-engagement/

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues