Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Ewrop ac WLGA / Blaenoriaethau Polisiau Ewropeaidd / Polisi Cydlyniant a Rhanbarthol / Ymgyrch Lobio Cyllid Cystadleurwydd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymgyrch Lobio Cyllid Cystadleurwydd

Yn 2010 roedd Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn lobïo'n galed dros parhad Cyllid Cystadleurwydd yr UE i Dwyrain Cymru wedi 2013. Mae'r Amcan Cystadleurwydd yn hywyddo arloesedd ac entrepreneuriaeth yn rhanbarthau'r UE nad sydd yn gymwys ar gyfer cyllid Cydgyfeirio (Amcan 1 yn flaenorol). Wedi ei ariannu trwy’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae’r Amcan Cystadleurwydd (Amcan 2 yn flaenorol) yn cefnogi 172 rhanbarth mewn 19 o Aelodau’r UE, gan gynnwys Dwyrain Cymru. Gyda cyllid cyfatebol o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mae cyllid Cystadleurwydd werth tua £280 miliwn i Ddwyrain Cymru ac yn bwysig iawn i greu swyddi, datblygiad economaidd ac adfywio.

Trwy gydol 2010 chwaraeodd Swyddfa Ewropeaidd WLGA rhan bwysig yn Menter Lobïo Rhanbarthau Cystadleurwydd, a arweinir gan Swyddfa Ranbarthol Awstria Isaf. Sefydlodd ac arweiniodd Katie Cavell, Cyn Rheolwr Materion Ewropeaidd WLGA, Grŵp Lobïo Rhanbarthau Cystadleurwydd y D.U. Derbyniodd grŵp lobïo Ewrop gyfan cefnogaeth 83% o’r rhanbarthau yr effeithiwyd arnynt (143 rhanbarthau), gan gynrychioli 87% o’r boblogaeth yn y rhanbarthau hyn a 58% o holl boblogaeth yr UE, ar gyfer parhad cyllid Cystadleurwydd.

Ar 7 Hydref 2010 cymerodd WLGA ran mewn cynhadledd lefel uchel a 'Gorymdaith y Rhanbarthau' ym Mrwsel gyda cynrychiolwyr lleol a rhanbarthol ar draws Ewrop i lobïo ar gyfer parhad Cyllid Cystadleurwydd yr UE wedi 2013. Cynrychiolodd y Cyng. Wynne Jones (Cyngor Sir Powys) Dwyrain Cymru yn y gynhadledd, ble cafodd datganiadau wleidyddol wedi’u arwyddo gan gynrychiolwyr o ranbarthau Cystadleurwydd i gefnogi parhad cyllid Cystadleurwydd wedi 2013 eu cyflwyno i hoelion wyth allweddol yr UE o fewn prif sefydliadau’r UE, gan gynnwys Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jose Manuel Barroso, Comisiynydd yr UE ar gyfer Polisi Rhanbarthol, Johannes Hahn, Cadeirydd Pwyllgor Datblygiad Rhanbarthol Senedd Ewrop, Danuta Hübner, a Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau (PyRh), Mercedes Bresso. Roedd yr orymdaith yn cynnwys tua 40 o faneri rhanbarthol a bu sawl cynrychiolydd rhanbarthol a gwleidyddion eraill yn cymryd rhan. Denodd yr orymdaith gryn dipyn o ddiddordeb o’r wasg, gyda ryw 50 o newyddiadurwyr a timau’r wasg o bob cwr o Ewrop yn dilyn y digwyddiad.

Mae rhagor o wybodaeth ar y fenter lobïo a rôl y Cyng. Jones fel cynrychiolydd Dwyrain Cymru yn y datganiad i'r wasg WLGA, rhan y D.U. o wefan PyRh a'r erthygl Western Mail canlynol. Mae lluniau o'r Gynhadledd a 'Gorymdaith y Rhanbarthau' i'w weld isod:

 

Lobio Cystad 1   Lobio Cystad 2        Lobio Cystad 3
Lobio Cystad 4 Lobio Cystad 5 Lobio Cystad 6
Lobio Cystad 7 Lobio Cystad 8 Lobio Cystad 9
Lobio Cystad 10 Lobio Cystad 11 Lobio Cystad 12
Lobio Cystad 13 Lobio Cystad 14 Lobio Cystad 15
Lobio Cystad 16 Lobio Cystad 17 Lobio Cystad 18
Lobio Cystad 19 Lobio Cystad 20 Lobio Cystad 21
Lobio Cystad 22 Lobio Cystad 23 Lobio Cystad 24
Lobio Cystad 25 Lobio Cystad 26 Lobio Cystad 27
Lobio Cystad 28 Lobio Cystad 29 Lobio Cystad 30

Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams