Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Diogelwch yn y gymuned / Ymddygiad gwrthgymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag amryw weithgareddau a allai amharu ar fywydau unigolion a chymunedau. Yn ogystal ag aflonyddu ar bobl, gall ymddygiad o'r fath rwystro ardaloedd rhag cael eu hadfywio a chreu amgylchiadau lle gallai troseddau mwy difrifol ddigwydd. Dyma enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • cadw sŵn ac achosi niwsans;
  • pobl ifainc yn ymgasglu'n fygythiol mewn mannau cyhoeddus;
  • difrodi, murysgrifen a gosod posteri heb ganiatâd;
  • gwerthu a phrynu cyffuriau yn y stryd;
  • gadael sbwriel a cherbydau heb ganiatâd;
  • yfed gwrthgymdeithasol;
  • camddefnyddio tân gwyllt.

Mae awdurdodau lleol a phartneriaethau dros ddiogelwch yn y gymuned ledled Cymru yn gwneud llawer i fynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath yn eu cymunedau. Mae gan bob partneriaeth gydlynydd dros faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gyfrifol am gydlynu ymateb i bob achos hysbys o'r cyfryw ymddygiad. Mae'r partneriaethau'n cael ymateb mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys:

  • llythyrau a chyfweliadau rhybuddio, contractau a chytundebau;
  • dirwyon penodol am greu anhrefn;
  • gorchmynion i rieni, gorchmynion cymorth unigol, rhybuddion atal sŵn, pwerau gwasgaru a gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • gorchmynion cau tai lle mae cyffuriau;
  • mynd i'r gyfraith i orfodi tenant i adael tŷ.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman