Mae'r sector gwirfoddol yn bwysig i fyd llywodraeth leol a phobl Cymru am sawl reswm. Mae'n llais dros anghenion newydd a'r rhai sydd heb eu cydnabod. Mae'n rhoi modd i bobl gydio ym mywyd cyhoeddus eu milltir sgwâr, gan feithrin arweiniad cymunedol a democratiaeth leol. Mae'n cynnig rhan i bobl yn y gymdeithas. Mae'n ffynhonnell uchel ei pharch ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth am nifer helaeth o bynciau ac yn rhoi amrywiaeth fawr o wasanaethau ymarferol i bobl.
Bydd WLGA yn cydweithio'n agos â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford
