Mae’r Strategaeth Dai Genedlaethol, ‘Cartrefi Gwell i Bobl Cymru’ (2001) yn ymrwymo Awdurdodau Lleol i ddod â’u tai i fyny i safon resymol erbyn 2012, yn unol â diffiniad Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS). Mae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol gynnal arolwg o gyflwr eu tai a chynhyrchu cynllun busnes ar gyfer y tai dros gyfnod o 30 mlynedd er mwyn dangos sut y caiff y gwelliannau eu hariannu.
Mae’r cynlluniau busnes tai presennol yn dangos y byddai’n costio dros £4biliwn i ddod â’r holl dai cymdeithasol yng Nghymru i fyny i safon WHQS erbyn 2012 a’u cynnal yn ôl y safon honno. Yn anffodus, mae gallu’r Awdurdodau Lleol i fuddsoddi cymaint o arian yn gyfyngedig oherwydd rheoliadau ariannol. Pan fo’r cynllun busnes yn dynodi nad yw’r Awdurdod yn gallu cyllido’r gwelliannau drwy fenthyca darbodus, mae’r dewisiadau yng Nghymru’n gyfyngedig i drosglwyddo i gymdeithas dai neu i gorff tai cymunedol cydfuddiannol. Mae gofyn i awdurdodau roi cyfle i denantiaid bleidleisio ynglŷn â throsglwyddo tai cyn gwneud penderfyniad ar y mater.
Pa ddulliau bynnag a ddefnyddir i ddod â’r cyflenwad tai cymdeithasol i fyny i safon WHQS, mae’n amlwg y gall y buddsoddiadau ddod â manteision sylweddol i gymunedau, nid yn unig o ran gwella’r cyflenwad tai a’r amgylchedd ond hefyd o ran creu gwaith a datblygu cymunedau cynaliadwy.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch
