Dyma becyn datblygu cyfundrefnol i wella gallu'r awdurdodau lleol i gyflawni nodau eu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Ar ben hynny, bydd y pecyn yn helpu i fagu cydnabyddiaeth o'r awdurdodau lleol yn asiantaethau gwella iechyd. Mae'r pecyn wedi'i lunio yn ôl pum prif nodwedd awdurdod lleol sy'n gwella iechyd:
- Mae gwella iechyd yn rhan gynhenid o feddylfryd corfforaethol yr awdurdod.
- Mae gwaith llunio polisïau yn helpu'r ymrwymiad craidd i wella iechyd.
- Mae cydweithio yn ychwanegu gwerth at yr ymdrechion i wella iechyd.
- Mae'r gallu i fwrw ymlaen â'r rhaglen wedi'i gryfhau.
- Mae llywodraethu da a dulliau rheoli perfformiad yn gofalu bod polisïau iechyd cyhoeddus yn hwyluso newidiadau.
Cliciwch yma i weld cronfa ddata'r Arferion Nodedig
Cliciwch yma am y gweithdai rhanbarthol cyntaf.


