Yn ol censws 2001, roedd 20.8% o boblogaeth Cymru yn medru siarad Cymraeg. Mae’r canrannau o siaradwyr Cymraeg yn amrywio’n fawr rhwng un awdurdod lleol a’r llall. Ceir y canrannau uchaf yng Ngwynedd (69%), Ynys Môn (60%), Ceredigion (52%) a Sir Gaerfyrddin (50%). Mae’r canrannau isaf i’w cael mewn ardaloedd megis Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd (dan 10%). Serch hynny, gwelwyd y cynnydd mwyaf rhwng 1991 a 2001 yn yr ardaloedd hynny gyda’r canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl Deddf 'Yr Iaith Gymraeg' 1993, rhaid ystyried y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yng Nghymru wrth gyflawni gwaith y wladwriaeth a gweinyddu'r gyfraith cyhyd ag y bo'n briodol ac yn ymarferol i wneud hynny yn y sefyllfa dan sylw.
Mae dau fwriad i'r ddeddf:
- cyflwyno gofynion newydd i hyrwyddo a hwyluso'r iaith yng Nghymru, yn arbennig wrth gyflawni gwaith y wladwriaeth a gweinyddu'r gyfraith, dan amodau cyfartal;
- sefydlu Bwrdd y Gymraeg.
At hynny, mae'r ddeddf yn gofyn i bob sefydliad baratoi cynllun ynglŷn â'r Gymraeg ac ennill sêl bendith Bwrdd yr Iaith iddo. Mae cynllun o'r fath yn pennu'r modd bydd y sefydliad yn datblygu ei ddarpariaeth Gymraeg yn y meysydd isod:
- trefnu a darparu gwasanaethau;
- ymdrin â'r Cymry Cymraeg;
- delwedd gyhoeddus y sefydliad.
Bu awdurdodau lleol o dan oblygiad statudol i ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg ac i hyrwyddo’r iaith ers Deddf Iaith Gymraeg 1993. Bellach mae holl awdurdodau lleol yn brofiadol iawn wrth baratoi a darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn unol a’u cynlluniau iaith Gymraeg.
Mae’r WLGA yn darparu cymorth secretariat i rwydwaith Rhwydiaith sy’n cynnwys cynrychiolaeth o swyddogion iaith Gymraeg ar draws y sector gyhoeddus – gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau tân ac achub a’r parciau cenedlaethol. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i drafod datblygiadau polisi perthnasol i’r iaith Gymraeg ac i rannu arfer da o fewn teulu llywodraeth leol Cymru.
Yn 2007, cynhwyswyd ymrwymiad allwedol ym manifesto ‘Cymru’n Un’ Llyowdraeth Cynulliad Cymru i geisio mwy o hawl i ddeddfu o safbwynt y Gymraeg drwy:
- gadarnhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru;
- darparu hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau;
- sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.
Mae Mesur Arfaethedig yr Iaith Gymraeg (2010) bellach wedi ei drafftio a’i chraffu gan bwyllgor deddfwriaethol yn y Cynulliad. Mae argymhellion y pwyllgor hwnnw wedi eu cyhoeddi.
Bwriedir i’r Mesur arfaethedig foderneiddio'r fframwaith ddeddfwriaethol cyfredol ynghylch y defnydd o'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd trwy sefydlu swyddfa’ Comisiynydd y Gymraeg a fydd yn cymryd lle Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn gwneud darpariaeth o ran datblygu safonau ar gyfer gwasanaethau iaith gymraeg fydd yn raddol cymryd lle y system bresennol o gynlluniau iaith fel sy’n reidrwydd o dan Ddeddf 1993.


