Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Rhanbarthol / Y Gogledd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y Gogledd

Arwain gwasanaethau cyhoeddus

Aelodau

Arweinyddion a phrif weithredwyr chwe chyngor y gogledd ynghyd ag arweinyddion lleyg a gweithredol y cyrff sy'n cynnig gwasanaethau pwysig eraill i bobl y rhanbarth yw aelodau Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
  • Cyngor Sir Ddinbych 
  • Cyngor Gwynedd 
  • Cyngor Sir Ynys Môn 
  • Cyngor Sir y Fflint 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 
  • Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Cadeirydd a Phrif Weithredwr Awdurdod Heddlu'r Gogledd 
  • Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd 
  • Cadeirydd a Phrif Swyddog Tân Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd

Sefydlu a diben

Cafodd y Bwrdd ei sefydlu yn 2010 gan ymgorffori Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd oedd wedi'i sefydlu yn 2006 yn ymateb i Raglen 'Creu'r Cysylltiadau'.

Dyma oedd rôl Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd:

  • Rheoli a hybu prosiectau cydweithio fyddai'n profi ffyrdd o roi gwasanaethau ar y cyd lle byddai awdurdod arweiniol yn cynnig gwasanaeth ar gyfer mwy nag un cyngor. 
  • Lledaenu profiad a meithrin cysylltiadau i gryfhau'r cydweithio. 
  • Gweithredu'n 'Llais y Gogledd' gan ymgyrchu ynglŷn â materion o bwys i'r rhanbarth.

Yn sgîl partneriaeth, arwain – Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd

Canolbwynt ar hyn o bryd

Nod Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd ywarwain yn strategol er mwyn:

1. Hybu gwasanaethau mwy effeithlon trwy:

  • Cynnig gwasanaethau ar y cyd.
  • Lledaenu'r arferion gorau a newidiadau buddiol o ran rhoi gwasanaethau.

2. Cryfhau'r berthynas â gwasanaethau cyhoeddus eraill y rhanbarth megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu'r Gogledd a Gwasanaeth Tân y Gogledd trwy ledaenu gwybodaeth, hyrwyddo gwell partneriaethau ymhlith gwasanaethau cyhoeddus a sefydlu trefniadau rhanbarthol ar gyfer cydweithio'n llwyddiannus ac yn arloesol ymhlith y gwasanaethau hynny.

3. Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynglŷn â materion rhanbarthol.

Delfryd

Mae'r Bwrdd wedi llunio delfryd arloesol ar gyfer hyrwyddo a hwyluso newidiadau yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Hanfod y delfryd yw bod pob partner wedi ymrwymo i 'ddefnyddio cydweithio, a phartneriaethau arloesol eraill, i wella gwasanaethau a'u gwneud yn fwy effeithiol trwy rannu costau, arbenigedd a chyfleusterau TG a rheoli'r farchnad yn graffach trwy gomisiynu a chaffael ar y cyd'.

Gwireddu'r delfryd: Byrddau rhaglenni

Pedwar bwrdd rhaglenni rhanbarthol sy'n gyfrifol am wireddu'r delfryd:

  • Gofal Cymdeithasol a Iechyd 
  • Addysg a Gwasanaethau Perthynol 
  • Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoleiddio 
  • Gwasanaethau Cymorth

Dyma fanylion bwrdd pob rhaglen ranbarthol:

  • Aelodau: cynghorwyr a phrif swyddogion sy'n gyfrifol am y maes dan sylw, ynghyd â chynrychiolwyr partneriaid eraill Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd.
  • Gorchwyl: Llunio prosiectau cydweithio rhanbarthol fydd yn arbed adnoddau ac yn gwella gwasanaethau. 
  • Diben arall: Ymateb i ofyn gweinidogion i wella gwasanaethau ac arbed adnoddau yn y maes dan sylw, e.e. addysg a gwasanaethau cymdeithasol. 
  • Noddwr: Prif weithredwr sy'n atebol i Fwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd ac yn ceisio gofalu bod pob bwrdd yn gweithio mewn modd uchelgeisiol, ymestynnol a phwrpasol.

Dyma rai prosiectau pwysig:

Bwrdd rhaglenni & Prosiect

Gofal Cymdeithasol a Iechyd

Canolfan gomisiynu ranbarthol ar gyfer gwasanaethau i blant, anableddau dysgu, iechyd y meddwl a lleoedd i'r rhai ac arnyn nhw anghenion cymhleth
Trefniadau comisiynu rhanbarthol ar gyfer Rhaglen 'Cefnogi Pobl'

Addysg a Gwasanaethau Perthynol

Trawsffurfio addysg trwy sefydlu gwasanaeth i'w rannu ar gyfer gwella ysgolion

Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoleiddio

Sefydlu gwasanaeth i'w rannu ym maes llunio adeiladau a gwasanaethau adeiladu
Rheoli cronfeydd cerbydau a gwasanaethau cludo

Gwasanaethau Cymorth

Rhannu gwasanaethau gweinyddu
Asiantaeth gaffael ranbarthol

Ffrydiau gwaith eraill

Mae'r Bwrdd yn ymwneud â ffrydiau gwaith eraill megis:

  • Symleiddio partneriaethau yn y gogledd gyda chymorth Heddlu'r Gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 
  • Gwella'r cydweithio â'r GIG trwy ystyried yn rheolaidd adroddiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol ymhlith aelodau'r bwrdd gweithredu. 
  • Ymgynghori â'r undebau llafur ynglŷn â materion cydweithio trwy gyfarfodydd cyswllt yn rheolaidd.

Problemau a'u datrys

Dyma rai gorchwylion ymestynnol mae Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd yn eu hwynebu:

  • Cael gafael ar y gallu a'r adnoddau ar gyfer prosiectau cydweithio. 
  • Gofalu ei fod yn cyfathrebu'n dda â phob cyngor a bod ei amryw raglenni a phrosiectau'n gwneud hynny, hefyd.

Argyhoeddi cynghorwyr a rheolwyr sydd ag amheuon y bydd cydweithio rhanbarthol yn:

  • arbed adnoddau ac yn gwella gwasanaethau; 
  • yn hwyluso rheolaeth leol o hyd trwy drefniadau llywodraethu newydd.

I'r perwyl hwnnw, mae Bwrdd Arwain Rhanbarthol y Gogledd yn:

  • Gweithio'n ddyfal i gyfleu'r hyn mae'n ei wneud trwy roi adroddiadau am hynt y byrddau rhaglenni gerbron cynghorau'n rheolaidd, cyhoeddi adroddiadau am brosiectau wrth eu sefydlu a hyrwyddo eu hargymhellion nhw, lledaenu cylchlythyrau/bwletinau a chysylltu trefniadau rheoli prosiectau a rhaglenni â'r rhwydweithiau proffesiynol perthnasol. 
  • Defnyddio cronfa drawsffurfio ranbarthol ac ynddi dros £1 miliwn i fuddsoddi mewn prosiectau a phenodi rheolwyr gwasanaethau rhanbarthol newydd gan fynnu iddyn nhw ddatblygu'r gwasanaethau hynny heb brosesau biwrocrataidd hirfaith. 
  • Arwain ac ymroi'n strategol. 
  • Ceisio gofalu y bydd buddion go iawn yn deillio o'r prosiectau presennol i ddangos bod cydweithio'n gallu llwyddo.

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Stephen Jones