Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin
Cafodd Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin ei sefydlu yn 2006 yn ymateb i Raglen 'Creu'r Cysylltiadau' ar gyfer cydweithio yn sector cyhoeddus Cymru. Cyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe yw'r aelodau. Yn ôl amodau'r Fforwm, bydd arweinyddion a phrif weithredwyr y cynghorau hynny'n cwrdd ryw bum gwaith y flwyddyn i gyfarwyddo, goruchwylio a llywio cydweithio ymhlith eu gweithwyr. Does dim cadeirydd parhaol i'r Fforwm – bydd pob arweinydd yn llywio cyfarfod yn ei dro.
Mae tri nod i'r Fforwm: gweithredu yn ôl y pum blaenoriaeth sydd wedi'u pennu ar gyfer cydweithio lle bydd modd ychwanegu at wasanaethau lleol trwy gydweithio'n rhanbarthol; cyflawni rôl bwrdd rhaglenni trwy oruchwylio prosiectau sy'n ymwneud â Rhaglen 'Creu'r Cysylltiadau'; goruchwylio cydweithio mewn meysydd eraill lle mae'n amlwg y bydd modd hwyluso arbedion a gwelliannau trwy drefniadau rhanbarthol.
Dyma'r pum blaenoriaeth sydd wedi'u pennu ar gyfer cydweithio yn y de-orllewin:
- Addysg a dysgu gydol oes
- Gofal cymdeithasol
- Rheoli gwastraff
- Ariannu trwy'r Rhaglen Gydgyfeirio
- Caffael
Ymhlith y gwaith sy'n mynd rhagddo trwy Raglen 'Creu'r Cysylltiadau', mae prosiectau ar gyfer rhannu gwasanaethau cyfreithiol a rhannu gwasanaethau pensaernïol a pheirianneg. Un o'r themâu trawsbynciol yw cydweithio â phedwar cyngor gwasanaethau gwirfoddol y rhanbarth trwy drefniadau sydd wedi'u pennu yn y datganiad o'n bwriad yma.
Mae cydweithio yn y de-orllewin dan oruchwyliaeth amryw gylchoedd o swyddogion sy'n cyflwyno adroddiadau i'r Fforwm bob hyn a hyn naill ai er gweithredu neu er gwybodaeth. Mae crynodeb o'u gwaith yma. Mae Pwyllgor Ymgynghori ag Undebau Llafur y De-orllewin yn cyflawni rôl bwysig ynglŷn â chydweithio, hefyd. Bydd yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
I weld rhestri agenda a chofnodion cyfarfodydd Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin, cliciwch yma. I weld datganiadau i'r wasg a dogfennau eraill, cliciwch yma.
Yn 2010, bydd Fforwm y Bartneriaeth Ranbarthol yn cwrdd fel a ganlyn:
- 15 Ebrill 2011 - Cyngor Sir Gar
- 17 Mehefin 2011 - Cyngor Sir Benfro
- 23 Medi 2011 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- 11 Tachwedd 2011 - Dinas a Sir Abertawe
Dim ond trwy wahoddiad y bydd modd dod i'r cyfarfodydd hyn.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sara Harvey


