Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Canolbarth/Fforwm Gwledig WLGA
Cafodd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Canolbarth a Chefn Gwlad ei sefydlu yn 2006 i sbarduno rhaglen gydweithio 'Creu'r Cysylltiadau' yn sector gwladol Cymru.
Yn wahanol i bartneriaethau a ffora rhanbarthol eraill WLGA, nid cynghorau'r canolbarth yn unig oedd yn cael ymuno â Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Canolbarth a Chefn Gwlad. Yn hytrach, gallai WLGA ddefnyddio – yn fan cychwyn – y cylch oedd wedi'i sefydlu yn barod i alluogi awdurdodau gwledig i ddod ynghyd a thrafod materion sy'n gyffredin iddyn nhw. Mae'r trefniadau hynny'n hyrwyddo dull hyblyg o gydweithio ac yn gydnaws âr syniad o 'ffiniau amhendant' sydd yn y Cynllun Gofodol.
Cynghorau Ceredigion, Powys a Gwynedd yw aelodau craidd y bartneriaeth ranbarthol. Mae cynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gâr a Sir Benfro yn cael cymryd rhan yn y cyfarfodydd, ac mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn cael eu cynrychioli yno, hefyd.
Ddiwedd mis Tachwedd 2007, fe roes Cyngor WLGA sêl ei fendith ar gynnig i gydlynu gwaith lobïo'r bwrdd trwy sefydlu Fforwm Gwledig WLGA. Bydd y fforwm yn gweithio ochr yn ochr â'r bwrdd a fydd yn dal i gyfeirio cydweithio yn y rhanbarth yn ogystal â chydio mewn cydweithio sydd ar y gweill mewn mannau eraill lle mae o les i'r awdurdodau craidd o ran effeithlonrwydd.
