Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Cynghorydd - Canllawiau i ymgeiswyr: Etholiadau lleol Cymru 2012 / ‘Wythnos ym mywyd…’
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

‘Wythnos ym mywyd…’

I roi syniad i chi am sut beth yw bod yn gynghorydd, dyma rai enghreifftiau go iawn o wythnosau nodweddiadol ym mywyd cynghorydd:

Dydd Llun:

Gweithio gartref heddiw. Mynd am dro o gwmpas y pentref a sylwi bod rhywun wedi cael gwared ar ei sbwriel ar lwybr cyhoeddus. Mynd draw i’r
neuadd goffa lle mae adeiladwr yn dechrau ar gynllun gwella heddiw (trefnu i dynnu lluniau ddydd Gwener). Anfon e-bost i’r cyngor am y sbwriel ar y llwybr cyhoeddus. Gadael y tŷ am 6.15pm i fynd i gyfarfod y cylch gwleidyddol. Pigo tri chynghorydd arall ar y ffordd. Gartref am 10.00pm.

Dydd Mawrth:

Codi’n gynnar i wneud gwaith tŷ. Gadael y tŷ am 8.45am a sylwi bod sbwriel wedi’i adael ar ôl torri glaswellt ar ymyl y brif ffordd. Ffonio’r cyngor. Gan fy mod yn gweithio heddiw, ymwelais â’r cwmni sy’n diweddaru gwefan y pentref yn ystod fy awr ginio. Gartref am 5.00pm - ateb yr e-bost oddi wrth etholwr am y safle adeiladu sydd y drws nesaf iddo. Mynd am dro i weld y safle. 6.00pm a min nos - amser gyda’r teulu.

Dydd Mercher:

Diwrnod yn y swyddfa a chyfarfod cylch amgylcheddol y pentref gyda’r hwyr i drafod cael stondin mewn gŵyl.

Dydd Iau:

Dim gwaith heddiw gan mai tri diwrnod rydw i’n ei weithio bob wythnos. Codi’n gynnar i fynd â fy merch i’r ysgol erbyn 7.00am. Gadael y tŷ am
9.15am i fynd i Gynhadledd WLGA yn Llandudno. Amser cinio – sgwrs dros y ffôn gyda swyddog am y problemau ar y safle adeiladu. Ffonio’r papur i
gadarnhau’r sesiwn tynnu lluniau fory. Gadael am 4.30pm a mynd i gyfarfod llywodraethwyr yr ysgol. Gartref erbyn 7.00pm. Ateb negeseuon e-bost rhwng 8.00pm a 9.00pm.

Dydd Gwener:

9.30am - cyfarfod gyda heddwas y gymuned yn y ganolfan gymunedol. 10.00am - mynd draw i’r Neuadd Goffa i gwrdd â’r adeiladwr a thynnu lluniau ar gyfer y papur. 10.30am tan hanner dydd - cyfarfod cynghorwyr cymuned a phwyllgor yn y ganolfan gymunedol. Rydw i yno bob dydd Gwener yn mynd i’r afael â materion y ward. Prynhawn Gwener - amser rhydd rhwng 4.00pm a 5.00pm - ateb negeseuon e-bost, sgwrsio gyda gohebydd am y neuadd goffa. Mynd allan am bryd o fwyd gyda fy mhedwar o blant gan fy mod yn cael fy mhen-blwydd fory!

Dydd Sadwrn:

Tywydd gwych, felly cyfle i fynd am dro ac ymlacio gyda ffrindiau. Trafod biniau ailgylchu gydag etholwyr yn y dafarn gyda’r hwyr a sgwrsio gyda
chadeirydd y clwb pêl-droed am eu cegin newydd…a sawl peth arall sy’n ymwneud â’r ward (dyna’r broblem gyda mynd am beint yn y pentref!)

Dydd Sul:

Diwrnod gyda’r teulu. Mynd am dro gyda’r hwyr. 8.00pm tan 10.00pm – darllen papurau pwyllgorau’r wythnos nesaf, trefnu amserlen yr wythnos
nesaf, gwneud gwaith papur ac ateb negeseuon e-bost. 

Dydd Llun:

Gyrru 45 milltir i gyfarfod gyda chynghorydd arall o blaid wahanol. Drwy wneud hyn, roedden ni’n gallu cynhyrchu llai o garbon, trafod agenda’r
cyfarfod a rhannu syniadau am bynciau llosg ym myd llywodraeth leol. Roedd y cyfarfod yn un o gyfres Cylchoedd Gwaith Gwella sy’n ystyried sut
i wella’r ffordd y mae gwasanaethau celfyddydau, llyfrgelloedd archifau ac amgueddfeydd yn cael eu cynnal yn ogystal ag arbed llawer o arian. Ar ôl y cyf arfod, y bues i’n ei gadeirio, aeth y cylch i siarad gyda staff yn yr uned archifau uchel ei pharch ac Amgueddfa'r Crynwyr. Rydw i hefyd yn aelod o gyngor dinas ac mae’r wasg yn mynd i’r cyfarfodydd yn aml. Gyda’r hwyr, bues i yn un o’i gyfarfodydd cynllunio

Dydd Mawrth

Daliais y bws (er lles yr amgylchedd eto!) i fynd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Ddatblygiadau. Mae’r pwyllgor yma’n cyfrannu at lunio polisïau ac yn
bwrw golwg manwl ar gyflawniad y cyngor ym meysydd datblygu economaidd, cymdeithasol ac economaidd. Heddiw, buon ni’n ystyried cynnig i sefydlu cronfa benthyciadau lleol ar gyfer cwmnïau bychain sy’n cydweithio â chyrff dielw yn y trydydd sector. Buon ni hefyd yn edrych yn fanwl ar dargedau blynyddol adrannau. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u cyrraedd, ond buon ni’n edrych yn benodol ar y rhai nad oedd wedi’u cyrraedd.

Dydd Mercher

Bore: Gweithdy ymgynghorol, dan arweiniad yr arweinydd a’r prif weithredwr, i asesu peryglon a blaenoriaethu camau i wella’r awdurdod

Bore Iau:

Cadeirio cyfarfod y Prif Bwyllgor Craffu lle buon ni’n edrych yn fanwl ar y rhesymau dros orwario yn y gwasanaethau cymdeithasol. Fe
gyflwynon ni argymhellion i’r adran weithredol am y camau i’w cymryd i atal hyn rhag digwydd eto ac fe gytunon ni, ar ôl cryn grafu pen, i ddyrannu llai o arian i’r cylchoedd gwirfoddol lleol. O ran polisi, sefydlwyd chwe chylch gwaith i edrych ar ffyrdd o wella gwasanaethau penodol i’r cyhoedd.
Cyfle i ymlacio yn y prynhawn cyn mynd i gyfarfod y blaid wleidyddol gyda’r hwyr.

Dydd Gwener

Ar ôl mynd i sesiwn ysbrydoledig gyda threfnwyr Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol a chylchoedd lleol oedd wedi’i hennill, fe es i am dro
o gwmpas ein ward. Edrychais a oedd y gwelliannau i un stryd wedi’u cwblhau a defnyddiais fy ffôn symudol i glirio sawl achos o dipio anghyfreithlon. Siaradais hefyd gyda landlordiaid am system newydd sydd i fod i wella cyflwr tai rhent a chynorthwyo tenantiaid i ymsefydlu’n well yn y gymdeithas. Myfyrwyr yw’r rhan fwyaf o’r tenantiaid yma.