Mae’r brif bartneriaeth ffurfiol rhwng Llywodraeth y Cynulliad a byd llywodraeth leol yn cael ei gynnal drwy Gyngor y Bartneriaeth.
Y Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid yw un o’r cyrff sy’n atebol i Gyngor y Bartneriaeth. Drwy’r fforwm yma mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ag WLGA (ar ran byd llywodraeth leol) am bopeth sy’n ymwneud ag arian byd llywodraeth leol. Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yw’r cadeirydd ac mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad a swyddogion o isadran ariannol byd llywodraeth leol. Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru, nid oes cynrychiolwyr o’r Cynulliad yn aelodau o’r fforwm yma. Yn lle hynny, mae Pwyllgor Ariannol wedi’i sefydlu sy’n un o bwyllgorau craffu’r Cynulliad.
Cynrychiolir WLGA ar y fforwm gan:
- Y Cyng. John Davies (Arweinydd WLGA) (Sir Benfro ac Arweinydd Cylch yr Annibynwyr)
- Y Cyng. Rodney Berman (Llefarydd Materion Ariannol WLGA) (Caerdydd ac Arweinydd Cylch y Democratiaid Rhyddfrydol ac Arweinwyr Cylchoedd Gwleidyddol eraill
- Y Cyng. Russell Roberts (Rhondda Cynon Taf – Llafur)
- Y Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy - Ceidwadwyr)
- Y Cyng. Dyfed Edwards (Gwynedd - Plaid)
- Steve Thomas Prif Weithredwr
- Vanessa Phillips Cyfarwyddwr Adnoddau
- Cynghorwyr Ariannol WLGA
Cynrychiolir yr heddlu a’r awdurdodau tân hefyd.
Mae gan y fforwm dri is-gylch dan arweiniad swyddogion sy’n trin a thrafod gwahanol feysydd ariannol byd llywodraeth leol:
- Mae’r Is-gylch Gwariant yn ystyried yr arian y mae byd llywodraeth leol yn ei dderbyn;
- Mae’r Is-gylch Dosbarthu yn trafod sut mae’r Cymhorthdal Cynnal Refeniw yn cael ei rannu ymhlith awdurdodau;
- Mae’r Is-gylch Arian a Buddsoddi Cyfalaf yn canolbwyntio ar anghenion buddsoddi cyfalaf byd llywodraeth leol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


