Rydych chi yma: Hafan / Cyhoeddiadau / Deunydd wedi’i gyhoeddi gan gyrff eraill / Yng Nghanol y Storm
 

Yng Nghanol y Storm

14 Gorffennaf 2009

Dyma ddiweddaru'r maniffesto a gyhoeddodd WLGA yn 2007, Bydded i Lywodraeth Gychwyn, yng ngoleuni'r trafferthion economaidd a gwleidyddol sy'n hysbys i bawb.

Rydyn ni ym myd llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd dros ben. Mae problemau rhai cynghorau wedi cael cryn sylw, nid yw’r agenda ar gyfer cydweithio wedi tanio’r dychymyg ac nid yw’r cytundebau ariannol diweddar wedi bod yn garedig o bell ffordd. Mae’r GIG, sy’n un o’n partneriaid pwysicaf, yn cael ei aildrefnu ac mae pob corff cyhoeddus o dan bwysau i weddnewid ac ailwampio eu gwasanaethau.

Ar ben hyn i gyd, rydyn ni yng nghanol y dirwasgiad economaidd gwaethaf ers hanner canrif ac nid yw arian cyhoeddus erioed wedi bod yn fwy prin. Bydd y ddogfen yma’n bwrw golwg manwl ar y meysydd yma ac yn cynnig ymateb drwy fynd i’r afael â rhai o’r prif anawsterau yn uniongyrchol.