03 Hydref 2005
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn newid. Yn sgil etholiadau 2004 cafwyd symudiad yng nghydbwysedd gwleidyddol nifer o gynghorau. Mae’r symudiadau hyn wedi cael eu hadlewyrchu mewn dull tra gwahanol o arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel genedlaethol, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae arweinwyr newydd y Gymdeithas wedi gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol cadarnhaol i lywodraeth leol. Rydym yn cydnabod bod angen newid radical i gael ymddiriedaeth a pharch ein cymunedau.
Mae amgylchedd newydd yn dod i’r amlwg yng Nghymru, sy’n cyflwyno dewisiadau a heriau clir. Mae’r cyfleoedd yno i fanteisio arnynt. Mae CLlLC yn croesawu’r drafodaeth genedlaethol ynghylch yr hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau o’i sector cyhoeddus. Mae cynghorau yn barod i dderbyn yr heriau y mae hyn yn eu cyflwyno, gan gynnwys yr angen i ailystyried y ffiniau trefniadol traddodiadol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau.
Mae’r Maniffesto yn nodi’r prif faterion y bydd cynghorau lleol yn canolbwyntio arnynt hyd at etholiadau 2008 a thu hwnt. Mae’n cynnwys cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol ar gyfer gwelliant parhaus cymunedau lleol. Mae hwn yn Faniffesto nid yn unig i CLlLC ond i lywodraeth leol yn ei chyfanrwydd a’n nod yw y bydd yn llywio ac yn llunio trafodaeth ymysg ein haelodau a chyda’n holl bartneriaid.


