Cynhaliodd WLGA gyfarfod i aelodau cabinet dros faterion trafnidiaeth ddydd Mercher 3ydd Tachwedd 2010. Un o'r themâu canolog yno oedd yr hyn mae angen ei wneud ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer problemau yn y dyfodol megis prinder olew, diogelwch ynni, y newid hinsoddol a pherygl llifogydd.
Mae Bruce Cockrean, o gwmni ymgynghorol 'Global to Local', wedi bod yn helpu WLGA i lunio Fframwaith Datblygu Cynaladwy. Wrth annerch y cyfarfod, pwysleisiodd fod angen ystyried dewisiadau o safbwynt gallu, cadernid a fforddiadwyedd. Er enghraifft, os ydyn ni am annog pobl i ddefnyddio ffyrdd eraill o deithio, fydd cludiant cyhoeddus yn gallu ymdopi â nifer sylweddol o gwsmeriaid newydd? Oni ddylen ni geisio cwtogi ar y galw am gludiant fel y cyfryw trwy – er enghraifft – annog pobl i fanteisio ar TGCh a cherdded neu seiclo? Os ydyn ni o'r farn bod cerbydau trydanol yn hyfyw, oes digon o ffynonellau ynni adnewyddadwy i hwyluso hynny? Fydd cerbydau trydanol yn ymarferol yng nghefn gwlad? Fydd ein buddsoddiadau mewn cludiant fod yn gadarn yn wyneb rhagor o beryglon trwy lifogydd ac erydi arfordirol? Fydd y tymheredd yn parhau i gynyddu ar gyfartaledd bob haf? Ar ôl ystyried y materion hyn ynghylch gallu a chadernid, sut gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i hwyluso'r deilliannau gorau ym maes trafnidiaeth?
Dyma'r prif bwyntiau o weddill y cyfarfod:
- Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros Faterion yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, yn glir y bydd y toriadau sylweddol yn yr arian cyfalaf – o ganlyniad i'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant – yn effeithio ar drafnidiaeth. Pwysleisiodd, fodd bynnag, y gallai byd llywodraeth wladol a lleol leddfu'r effaith trwy gydweithio, e.e. trwy symleiddio prosesau ariannu, cwtogi ar fiwrocratiaeth a gwneud y gorau o'r arian sydd ar gael trwy Undeb Ewrop: Bydd Llywodraeth y Cynulliad a'r cynghorau'n cydweithio i ddiwallu anghenion o ran trafnidiaeth;
- Cwrddodd y Dirprwy Brif Weinidog â Llefarydd WLGA dros Drafnidiaeth a chadeiryddion consortia trafnidiaeth y pedwar rhanbarth a chytuno i gwrdd â nhw ddwywaith y flwyddyn;
- Soniodd Dewi Rowlands (Llywodraeth y Cynulliad) am nifer o adolygiadau sy'n mynd yn eu blaen ynglŷn â gweinyddu grantiau, diogelwch y ffyrdd, WELTAG, monitro a gwerthuso ac asiantaethau cefnffyrdd. Dywedodd fod bwriad i gwtogi ar nifer y cynlluniau grantiau a symleiddio prosesau'r cynlluniau hynny ynghylch ceisiadau a monitro. Byddai rôl ehangach i'r consortia o ran cydlynu ceisiadau i ofalu eu bod yn cyd-fynd â'r strategaethau rhanbarthol. Roedd adolygiad o'r trefniadau llywodraethu'n mynd rhagddo, hefyd. Y bwriad oedd sefydlu cylch llywio gwladol fyddai'n dod â'r prif asiantaethau at ei gilydd. Byddai amryw is-bwyllgorau'n gyfrifol am gyflawni nodau dan oruchwyliaeth y cylch llywio;
- Soniodd Colin Eaketts (Llywodraeth y Cynulliad) am feysydd fyddai dan sylw yn yr adolygiadau o fathodynnau glas a thocynnau mantais. Cynigiodd ddod i'r awdurdodau lleol os ydyn nhw am gael rhagor o fanylion am yr adolygiadau;
- Fe roes cynrychiolydd pob consortiwm y diweddaraf am ei waith;
- Rhoes WLGA grynodeb ynghylch faint o raean sydd ar gael ar gyfer gaeaf 2010;
- Rhoes ATCO y diweddaraf am faterion allweddol cludiant cyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin


