Mae Tîm Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol CLlLC wedi cynnal ymarfer i sefydlu’r angen i astudiaethau achos cydraddoldeb ac amrywiaeth gael eu datblygu i’w defnyddio mewn cyrsiau hyfforddi presennol. Dangosodd yr ymarfer angen clir am adnodd o’r fath, yn enwedig i ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen o fewn llywodraeth leol ac o ganlyniad mae nifer o astudiaethau achos wedi cael eu dylunio a’u datblygu. Mae’r adnoddau hyn yn ddi-dâl ac ar gael i’w lawrlwytho isod. Cânt eu diweddaru a’u datblygu’n gyson, gan ychwanegu mwy o astudiaethau achos.
Mae’r astudiaethau achos sydd ar gael ar hyn o bryd ar y wefan wedi cael eu dylunio a’u datblygu ar sail profiadau go iawn ac wedi eu peilotio gydag amrywiol grwpiau a’u gwerthuso a’u datblygu ymhellach lle roedd angen.
Ategir pob astudiaeth achos â chynllun gwers manwl ac unrhyw ddeunyddiau mae eu hangen i’w dosbarthu. Bwriedir iddyn nhw fod yn hyblyg a chaniatáu i unrhyw ymarferwr hyfforddi eu haddasu i weddu i’r cwrs hyfforddiant maen nhw’n gyfrifol am ei gyflwyno.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau achos neu os ydych am drafod unrhyw ran o’r cynnwys a’r fethodoleg, cysylltwch ag Anna Morgan (Cynghorydd Hyfforddiant) drwy’r ddolen e-bost isod.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan


