Gan fod Deddf Cydraddoldeb wedi’i chyflwyno fis Hydref 2010, cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol dri seminar rhanbarthol amdani yng Nghasnewydd (19eg Tachwedd 2010), Conwy (23ain Tachwedd 2010) ac Abertawe (9fed Rhagfyr 2010). Nod y seminarau oedd rhoi cyfle i swyddogion ddysgu rhagor am y ddeddf ac ystyried y camau y bydd angen eu cymryd i ofalu bod eu sefydliadau’n paratoi ar gyfer eu dyletswyddau statudol newydd. Roedd cyflwyniadau gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘Trosolwg o Ddeddf Cydraddoldeb 2010’, a Llywodraeth y Cynulliad, ‘Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru’. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Jake Bowers, yr unig ddarlledwr a newyddiadurwr ym Mhrydain sydd o dras Romani, a Melanie Davies, cydawdur ‘Never Say Die’. Cynhaliwyd gweithdai am y pynciau canlynol, hefyd:
- Gweithio ledled y sector cyhoeddus
- Casglu gwybodaeth am swyddi a chyflogau a’i chyflwyno mewn adroddiadau
- Ymgysylltu â chymunedau amryfal mewn modd cynhwysol ac ystyrlon
- Pennu amcanion cydraddoldeb ac asesu hynt eu cyflawni
- Deall caffael: Beth mae angen ichi ei wneud?
- Materion ‘newydd’ mae’r ddeddf wedi’u cynnwys megis tueddfryd rhywiol ac oedran
Mae cyflwyniadau’r siaradwyr a’r hwyluswyr ar gael isod.
Mae fideos o’r prif siaradwyr yn gwneud eu cyflwyniadau ar gael i’w gweld yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan


