01 Awst 2006
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru (yr Eisteddfod) a Chymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru (WLGA) wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i hybu a datblygu diwylliant Cymru mewn ffordd gynaladwy ac i ofalu y bydd yr Eisteddfod yn parhau ymhell i’r dyfodol fel gŵyl sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru.


