Mae WLGA yn unigryw ymhlith cymdeithasau llywodraeth leol y DG achos bod gweithgareddau cymorth ar gyfer gwella a gweithgareddau llunio polisïau yn mynd yn eu blaen yn yr un sefydliad. Mae nifer o fanteision i'r drefn hon:
- Gallwn ni ofalu bod ymrwymiad gwleidyddol cryf i'r gweithgareddau cymorth ar gyfer gwella.
- Mae modd defnyddio gwybodaeth a phrofiad ynghylch arferion a'r hyn sydd wedi'i gyflawni i gyfeirio gwaith llunio polisïau.
- Blaenoriaethau'r polisïau sy'n cyfeirio'r gweithgareddau cymorth ar gyfer gwella.
Sefydlodd WLGA ‘Fwrdd Gwella' yn 2009. Gwleidyddion lleol allweddol ac iddyn nhw rolau pwysig ynghylch arwain trefniadau cynnig gwasanaethau lleol yw aelodau'r bwrdd, ac mae carfan o arbenigwyr profiadol o fyd llywodraeth leol a sectorau eraill i'w cynghori. Mae'r bwrdd yn hyrwyddo gwella ym myd llywodraeth leol gan annog awdurdodau i ledaenu'r arferion gorau a chynghori a chynorthwyo ei gilydd.
Dyma nodau'r bwrdd:
- Helpu byd llywodraeth leol i wella a thynnu sylw at dangyflawni.
- Ymrwymo'n gryf ac yn hysbys i'r syniad o ledaenu gwersi ymhlith cyrff sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus er mwyn trosglwyddo llwyddiant ac osgoi methiant.
- Gwella'r trefniadau ar gyfer tynnu sylw at wasanaethau sy'n dirywio a rhoi cymorth i gywiro hynny'n ddiymdroi.
Mae'r bwrdd yn cwrdd hyd at deirgwaith y flwyddyn ac yn cyflwyno ei argymhellion i'r Bartneriaeth dros Effeithlonrwydd ac Arloesi trwy ei gadeirydd, y Cyng. Russell Roberts, Llefarydd WLGA dros Faterion Gwella.
Aelodau:
- Cadeirydd: Y Cyng. Russell Roberts – Llefarydd WLGA dros Faterion Gwella a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Y Cyng. John Davies – Arweinydd WLGA
- Y Cyng. Rodney Berman – Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol ac Adnoddau
- Y Cyng. Meryl Gravell – Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol a Iechyd
- Y Cyng. Peter Fox – Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes a Medrau
- Y Cyng. Aled Roberts – Llefarydd WLGA dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai
- Y Cyng. Lindsay Whittle – Llefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Cyfiawnder Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol
- Y Cyng. Bob Wellington – Llefarydd WLGA dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Rhwydweithiau
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford


