Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Tai / Tai Preifat
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Tai Preifat

Mae gofyn statudol i awdurdodau lleol ystyried sut bydd anghenion yr ardal, o ran tai, yn cael eu diwallu. Felly, mae pob rhan o'r farchnad yn bwysig, yn arbennig y sector preifat lle mae 83% o gartrefi Cymru – 73% ac ynddyn nhw eu perchnogion a 10% ac ynddyn nhw denantiaid.

Dros y degawdau diweddar, mae nifer y bobl sy'n berchen ar eu cartrefi wedi codi'n raddol ond gan fod prisiau wedi codi'n fawr yn ddiweddar, mae mwy a mwy o bobl yn ei chael yn anodd prynu tŷ. Mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni rôl bwysig ynghylch rhoi cartrefi ar gael yn y sectorau preifat a chymdeithasol yn ogystal â hwyluso trefniadau mwy hyblyg yn y farchnad fel y bydd sawl dewis amgen na phrynu neu rentu yn y pen draw.

Tai preifat sydd ar osod

Mae nifer y tai preifat sydd ar osod yn gymharol fychan ond mae'r rhan hon o'r farchnad yn bwysig ynghylch cynnig cartrefi i'r rhai na allan nhw rentu tai cymdeithasol na phrynu tai. Mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio â landlordiaid preifat i rhoi rhagor o dai preifat o safon ar osod trwy amryw fentrau megis:

  • Fforymau landlordiaid;
  • Asiantaethau sy'n cynnig tai ar osod;
  • Achredu Landlordiaid Cymru; 22 awdurdod lleol Cymru sydd wedi datblygu'r cynllun hwn
  • Trwyddedu tai ac ynddyn nhw fwy nag un preswylydd;
  • Defnyddio pwerau cyfreithiol i orfodi landlordiaid i wella safonau tai lle bo angen.

Adnewyddu tai

Mae'r awdurdodau lleol yn annog ac yn helpu perchnogion i wella eu cartrefi, hefyd. Ychydig iawn o awdurdodau sydd mewn sefyllfa i gynnig grantiau ond maen nhw'n helpu perchnogion mewn amryw ffyrdd eraill megis asiantaethau gwella a chynlluniau rhyddhau ecwiti. Mae gweithgareddau adnewyddu tai'r awdurdodau lleol yn canolbwyntio bellach ar 'ardaloedd adnewyddu' lle mae cyflwr y tai'n arbennig o wael.

Cadarnhawyd llwyddiant y dull hwn gan adolygiad diweddar o ardaloedd adnewyddu gan Gynulliad Cymru a’r effaith adfywiol mae ardaloedd adnewyddu’n eu cael ar dai a chymunedau. Am fwy o wybodaeth gweli'r wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yma.

Grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw rhoi grantiau i bobl anabl i'w helpu nhw i dalu am addasu eu cartrefi fel y gallan nhw barhau i fyw'n annibynnol yno. Mae'r galw am y grantiau'n dal i gynyddu a chan y bydd rhagor o hen bobl dros y degawdau i ddod, mae'r disgwyl y bydd y galw'n cynyddu eto fyth. Mae cymdeithasau tai’n cael hawlio grant ar gyfer addasu eu tai. Hoffai WLGA i’r trefniadau ariannu gael eu newid fel y byddai’r grant ar gael i denantiaid o bob math.

Chwefror 2010: Ymateb WLGA i’r ymgynghori am symleiddio trefniadau’r grant ar gyfer addasu tai

Mae rhagor o wybodaeth gan awdurdodau unigol am y cymorth maen nhw'n ei roi i'r sector preifat yn eu hardaloedd.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch