Mae cymunedau'n dibynnu ar awdurdodau lleol i roi gwasanaethau cyhoeddus pwysig ar gael iddyn nhw. Mae pawb yn derbyn yr egwyddor bellach y dylai gwasanaethau cyhoeddus ledaenu profiad, arbenigedd a 'chyfrinachau eu llwyddiant' i gyflawni cymaint ag y bo modd er lles pobl Cymru.
Mae gwefan Arferion Da Cymru yn ffordd hwylus o chwilio am arferion da'r sector cyhoeddus ar y we. Mae'n gweithredu'n debyg i wefan 'comparethemarket.com' gan nodi pob gwefan sy'n berthnasol i'r pwnc o dan sylw. At hynny, fe gewch chi ddolenni defnyddiol eraill trwy wefannau partneriaid. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ofalu bod pob corff yn sector cyhoeddus Cymru sydd am hybu arferion da a rhannu adnoddau yn ymwneud â'r wefan hon.
Mae'r wefan yn datblygu ac, yn sgîl peth adborth, bydd arni ran am adnoddau gan gynnwys dolenni â chyrff materion gwella ledled y DG megis Asiantaeth Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol, Rhwydwaith y Materion Gwella a Fforwm Partneriaid Arferion Da Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues


