Mae rôl ganolog i'r awdurdodau lleol ynglŷn â helpu economi pob bro boed trwy gymorth uniongyrchol i gwmnïau yno neu gymorth a chynghorion i gymunedau a thrigolion.
Yn yr adroddiad isod, edrychodd WLGA ar effaith y dirwasgiad a nodi'r amryw ffyrdd mae gwasanaethau'r cynghorau'n ymwneud ag economïau eu hardaloedd.
Mae Fframwaith Datblygu Cynaladwy WLGA yn ystyried sut gallwn ni adfywio economïau mewn modd fydd yn datblygu cadernid ynddyn nhw. Cliciwch yma
Cadernid economïau lleol oedd thema gweithdy gynhaliodd WLGA fis Mawrth 2010, hefyd. Cliciwch yma i weld y cyflwyniadau.
Yn yr un modd, mae gwaith Comisiwn Datblygu Cynaladwy Cymru wedi bod o gymorth inni trwy nodi cyfleoedd i ddatblygu economïau haws eu cynnal. Cliciwch yma
Mae gwefan Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i awdurdodau lleol ynglŷn â hwyluso ffyniant economaidd. Mae arni hefyd linc â chylch sy'n ymwneud â'r syniad hwnnw. Er mai dim ond i Loegr mae peth deunydd yn berthnasol, mae llawer fydd o gymorth i awdurdodau Cymru, hefyd. Cliciwch yma
Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynlluniau megis ReAct a ProACt yn ystod y dirwasgiad i helpu'r rhai oedd wedi colli eu swyddi i ddod o hyd i waith a chynnig cymorth i gwmnïau oedd yn fodlon eu cyflogi. Cafodd ReACtII ei gyflwyno fis Rhagfyr 2010 ac mae ar waith er 1af Ebrill 2011. Cliciwch yma
(Daeth Cynllun ProACt i ben yn 2010 ac mae'r arian oedd yn weddill wedi'i neilltuo i Sgiliau Twf Cymru)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin


