Gyda datblygiad adrodd cyson ar ddata cyllid gwastraff mae wedi dod yn bosibl cynnal cymariaethau effeithiol o gostau ac felly meincnodi awdurdodau yn erbyn ei gilydd.
Mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff, mewn partneriaeth â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi ailddatblygu gweithgareddau meincnodi gwastraff yng Nghymru. Dechreuodd y rhaglen ym mis Mawrth 2010 ac o 2011 ymlaen bydd yn asesu costau tri maes gwasanaeth gwahanol bob blwyddyn. Bydd y meincnodi yn dilyn cylch penodol:
- Medi Bl1: adrodd ar ddata cyllid a thunelledd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol
- Medi – Rhagfyr Bl1: caiff y data ei ddadansoddi a’i wirio am anomaleddau amlwg gan CLlLC
- Rhagfyr Bl1: Grŵp Gwastraff Cymdeithas Syrfewyr Sirol (uwch reolwyr o bob awdurdod lleol yng Nghymru) yn asesu’r canlyniadau ac yn dewis tri maes gwasanaeth strategol bwysig i’w hasesu
- Rhagfyr Bl1: Adrodd i’r Bwrdd Rhaglen Gweinidogol ar ddata Meintiol ynghyd â thestunau i’w meincnodi
- Ionawr – Mawrth Bl1: meincnodi’r testun cyntaf. Gwaith safle gydag 8 awdurdod lleol yn ymchwilio i’r rhesymau dros amrywiadau cost a pherfformiad. Drafftio papur gwaith o’r canfyddiadau, a’i gyflwyno i’r Gymdeithas Syrfewyr Sirol
- Mawrth – Mehefin Bl1: meincnodi ail destun. Gwaith safle gydag 8 awdurdod lleol yn ymchwilio i’r rhesymau dros amrywiadau cost a pherfformiad. Drafftio papur gwaith o’r canfyddiadau, a’i gyflwyno i’r Gymdeithas Syrfewyr Sirol
- Mehefin – Medi Bl1: meincnodi trydydd testun. Gwaith safle gydag 8 awdurdod lleol yn ymchwilio i’r rhesymau dros amrywiadau cost a pherfformiad. Drafftio papur gwaith o’r canfyddiadau a’i gyflwyno i’r Gymdeithas Syrfewyr Sirol
- Medi – Rhagfyr Bl2 ac ymlaen: adroddiad drafft Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar bapurau gwaith, yn cynnwys argymhellion. CLlLC i gasglu a choladu data cyllid o’r flwyddyn ariannol flaenorol
- Rhagfyr Bl2 ac ymlaen: Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno adroddiad meincnodi i MPB ac yn amlygu argymhellion. CLlLC yn cyflwyno data ansoddol ynghyd â’r tri maes gwasanaeth i’w hastudio yn y cylch nesaf.
Bydd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn egluro’r argymhellion lle mae’r canfyddiadau’n nodi ble y gellir cyflawni arbedion neu gynnydd mewn perfformiad. Er mwyn sicrhau ‘cylch rhinweddol’ o welliant, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn monitro’r ffordd y mae’r argymhellion wedi cael eu gweithredu fel rhan o’i gwaith parhaus gydag awdurdodau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft


