Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Rhaglen Gwella Gwastraff / Prosiect Data Cyllid Gwastraff
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Prosiect Data Cyllid Gwastraff

Hyd at 2008, roedd awdurdodau lleol yn adrodd yn wahanol i’w gilydd ar eu data cyllid gwastraff. Mae data cost bob amser wedi cael ei gasglu’n gyson (yn unol â’r Côd Ymarfer Cyfrifo Gwerth Gorau), fodd bynnag, byddai awdurdodau gwahanol weithiau’n rhoi cyfrif am gostau yn wahanol (e.e. byddai un awdurdod yn dosbarthu didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu fel casglu tra byddai eraill yn ei nodi fel gwaredu). Roedd Roedd gwahaniaethau sylweddol hefyd o ran costau ac roedd rhai awdurdodau yn cynnwys dibrisiant cyfalaf yn eu data ac eraill yn adrodd ar wariant refeniw yn unig.

Trefnodd CLlLC weithgor o swyddogion cyllid a gwastraff o ystod o awdurdodau a datblygu fformat presennol y dull o adrodd. Yn ddiweddar, mae Wastedataflow (cronfa ddata ar gyfer casglu data tunelledd o weithgareddau gwastraff) wedi cael ei haddasu yng Nghymru i dderbyn data tunelledd gan greu un man ar gyfer cyflwyno data. Unwaith y mae data tunelledd a data cyllid wedi cael eu rhoi i mewn i’r system, caiff cyfres o adroddiadau eu creu yn awtomatig.

Mae’r broses hon yn adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai trwy’r Bwrdd Rhaglen Gweinidogol ar gyfer Rheoli Gwastraff. Yn dechrau yn 2009, caiff y data meintiol ei gyflwyno i’r Gweinidog yn y Bwrdd Rhaglen Gweinidogol ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Yna defnyddir y data yn yr adroddiadau fel sylfaen ar gyfer dadansoddiad ansoddol manylach, gan asesu’r gwahaniaeth o ran cost rhwng awdurdodau.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft