Ers ei sefydlu yn 2001, mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru ar gyfer y rhai sy'n gofyn am loches, ffoaduriaid a mewnfudwyr (Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer Ffoaduriaid a'r Rhai sy'n Gofyn am Loches gynt) yn gweithio gyda budd-ddalwyr yn y sectorau statudol, gwirfoddol, cymunedol a phreifat i arwain materion mewnfudo yn strategol, eu cydlynu a chynghori amdanyn nhw. Mae partneriaethau cyffelyb yn yr Alban a phob un o ranbarthau Lloegr. Mae partneriaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd.
Cyngor Dinas Casnewydd gynhaliodd y bartneriaeth yn wreiddiol ond, yn 2009, ysgwyddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) gyfrifoldeb amdani i adlewyrchu ei rôl ehangach ynglŷn â materion mewnfudo Cymru i gyd, cydweithio'n agosach a'r 22 awdurdod lleol a chryfhau'r cysylltiadau â strwythurau gwleidyddol a blaenoriaethau byd llywodraeth leol ym mhob bro.
Dyma nodau'r bartneriaeth:
- Hwyluso cydweithio a thrafod ymhlith Asiantaeth Ffiniau'r DG, cyrff llywodraeth wladol, rhanbarthol a lleol, cyrff anstatudol a budd-ddalwyr rhanbarthol a lleol fel y bydd modd pennu ffordd strategol o hyrwyddo manteision mewnfudo a lleddfu unrhyw effeithiau niweidiol.
- Helpu i lunio polisïau gwladol a lleol ynglŷn â mewnfudo, a'u rhoi nhw ar waith.
- Cydweithio â phartneriaid lleol i lunio a goruchwylio trefniadau i gynnig gwasanaethau sy'n diwallu anghenion mewnfudwyr ym mhob bro.
- Bod yn ddolen gyswllt rhwng Asiantaeth Ffiniau'r DG, adrannau gwladol eraill a phartneriaid rhanbarthol/gwladol, yn ogystal â threfnu cyfarfodydd amlasiantaethol am faterion mewnfudo.
Bydd y bartneriaeth yn cwrdd bob tri mis. Cewch chi ragor o wybodaeth trwy anfon neges at: info@wsmp.org.uk
Tîm ac ynddo bedwar o bobl sy'n rheoli gwaith y bartneriaeth:
| Anne Hubbard |
Cyfarwyddwr |
| Kathryn Tucker |
Cyngor a Gwybodaeth i Blant sy'n Ffoaduriaid |
| Selina Moyo |
Swyddog Polisïau |
| Pat Westow |
Gweinyddwr |
- Mae modd cysylltu â'r bartneriaeth dros y ffôn, hefyd: 029 2090 9550.
- Asiantaeth Ffiniau'r DG a Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r bartneriaeth.
- Mae rhestr o aelodau'r bartneriaeth i'w gweld isod.
- Mae rhagor o wybodaeth am waith y bartneriaeth ar ei gwefan yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Naomi Alleyne


