Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cymunedau Newydd / Gweithwyr ymfudol yng Nghymru
 

Gweithwyr ymfudol yng Nghymru

Ystyr 'gweithiwr ymfudol' yw rhywun sydd, fu neu fydd yn gyflogedig mewn gwlad nad yw'n perthyn iddi.

Yng Nghymru a'r DG, defnyddir y term 'gweithiwr ymfudol' mwyfwy i gyfeirio at bobl o ddwyrain Ewrop. Y rheswm dros hynny yw i Wlad Pwyl a naw o wledydd eraill Ewrop ymuno ag Undeb Ewrop yn 2004 ac, ers hynny, mae nifer y rhai sy'n dod o'r gwledydd hynny – yn arbennig Gwlad Pwyl a Slofacia – i fyw a gweithio yng Nghymru wedi cynyddu.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, bod y term 'gweithiwr ymfudol' yn cyfeirio at boblogaeth amryfal – pobl o sawl cefndir a gwlad sydd â gwahanol hawliau yn ôl cyfraith y DG ynghylch mewnfudo.

  • Ynghylch pobl yng Nghymru sydd heb eu geni yn y DG, y rhai wedi'u geni yng Ngweriniaeth Iwerddon yw'r garfan fwyaf

Dyw Deddf 'Llywodraeth Cymru' 2006 ddim yn rhoi pwerau deddfu ynghylch mewnfudo. Mae mewnfudo'n dylanwadu ar bob gwasanaeth, fodd bynnag, yn arbennig addysg a thai. Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am y meysydd hynny ac maen nhw'n arbennig o berthnasol i bolisïau mewnfudo.

Polisïau Llywodraeth y DG ynghylch mewnfudo a'r drefn newydd yn ôl pwyntiau

Yn sgîl ehangu Undeb Ewrop yn 2004, mae dinasyddion wyth gwlad arall yn cael symud yn rhydd ymhlith gwledydd yr undeb, sef: Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithuania, Slofacia a Slofenia. Er i Fwlgaria a Romania ymuno ag Undeb Ewrop fis Ionawr 2007, dyw eu dinasyddion ddim yn cael gweithio lle y mynnon nhw eto a dim ond ychydig ohonyn nhw sydd wedi ymgeisio i weithio yng Nghymru.

Ynghyd â Sweden ac Iwerddon, dewisodd y DG beidio â rhwystro dinasyddion yr 8 gwlad uchod rhag gweithio yma er bod amodau Cynllun Cofrestru'r Gweithwyr yn berthnasol iddyn nhw.

Mae hawl gan weithwyr ymfudol o'r 8 gwlad i fynnu rhai budd-daliadau sylfaenol megis budd-dal tai, budd-dal treth y cyngor a chredydau treth tra bôn nhw'n gweithio yma, ar yr amod eu bod wedi'u cofrestru.

Dim ond ar ôl gweithio'n gyfreithlon ers o leiaf 12 mis, heb seibiant dros 30 diwrnod, y caiff gweithwyr o'r 8 gwlad hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol megis lwfans chwilio am waith

Gwybodaeth ac ymchwil

Mae'n aneglur faint o weithwyr ymfudol o'r 8 gwlad newydd sydd yng Nghymru ac mae'r sefyllfa'n newid drwy'r amser.

Dyw'r ddwy brif ffynhonnell o wybodaeth i ddibenion gweinyddu – Cynllun Cofrestru'r Gweithwyr a Nifer y Ceisiadau am Yswiriant Gwladol – ddim yn rhoi darlun cyflawn o faint o weithwyr o'r 8 gwlad sydd yng Nghymru ac mae eu niferoedd mewn sawl rhan o Gymru wedi'u hamcangyfrif yn rhy isel o lawer.

Tua 3% o geisiadau pobl o'r 8 gwlad am weithio yn y DG sy'n ymwneud â Chymru

Ystadegau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru

Fis Mehefin 2007, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ddarn ystadegol am weithwyr ymfudol yng Nghymru, yn arbennig y rhai o'r 8 gwlad sydd newydd ymuno ag Undeb Ewrop. Dyma ddolen â'r erthygl:

Ymchwil a gomisiynodd Llywodraeth y Cynulliad

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu ymchwil i fesur effaith gymdeithasol mewnfudo ar ardaloedd tri awdurdod lleol – Wrecsam, Casnewydd a Sir Gâr. Mae disgwyl y bydd y canlyniadau ar gael erbyn mis Mai. Gwelwch cyhoeddiadau perthynol isod.

Consortiwm Cymru dros Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Ymfudwyr

Mae'r consortiwm wedi comisiynu ymchwil er mwyn nodi pa fudiadau gwirfoddol a chymunedol sy'n ymateb i faterion gweithwyr ymfudol a sut mae cydlynu hynny'n effeithiol. Mae modd darllen rhagor yma.

Swyddfa'r Ystadegau Gwladol

Yn 2006, sefydlodd Swyddfa'r Ystadegau Gwladol dasglu cydadrannol i nodi sut gallai wella ystadegau am ymfudo. Gwelwch cyhoeddiadau perthynol isod am crynodeb o waith y tasglu a'i argymhellion. Mae rhagor o wybodaeth am waith y swyddfa i wella ei ystadegau yma.

Rhaglen waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr/Dadansoddi ac Ymchwil Llywodraeth Leol am ymfudwyr

Trwy Gylch Dadansoddi ac Ymchwil Llywodraeth Leol (LGAR), mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr wedi dechrau rhaglen waith eang am ymfudo. Cewch chi ddarllen am ffynonellau'r wybodaeth am ymfudwyr dan cyhoeddiadau perthynol isod.

Am y tro cyntaf, mae'r Swyddfa Gartref wedi caniatáu i LGAR weld ei data am weithwyr ymfudol fesul ardal awdurdod lleol. Mae'r ddolen â'r data yma.

Os nad oes cyfeiriad ebost .gov.uk gyda chi, cewch chi weld y data gwladol a lleol yma.

Amcangyfrif ehangder ac effeithiau ymfudo ym mhob bro

Gofynnodd LGAR i'r Sefydliad dros Gydlyniad Cymunedol baratoi'r adroddiad yma ar ran LGA. Mae'n nodi 15 prif faes lle mae pwysau ar wasanaethau megis tai, cyfieithu, iechyd a phlant. Mae modd gweld yr adroddiad o dan cyhoeddiadau perthynol isod.

Cafodd 16,200 o weithwyr o'r 8 gwlad eu cofrestru rhwng Mai 2004 a Mawrth 2007. Cyflwynodd gweithwyr o'r fath 17,300 o geisiadau am yswiriant gwladol yn ystod yr un cyfnod

Manylion gweithwyr ymfudol yng Nghymru

Ychydig iawn o ddata cyfoes am weithwyr ymfudol yng Nghymru sydd ar gael. Mae llawer o'r waith i nodi oedran, rhyw a manylion personol eraill y gweithwyr hynny wedi'i seilio ar ddata am Loegr.

Mae dwy ran o dair o'r ceisiadau i Gynllun Cofrestru'r Gweithwyr yng Nghymru yn ymwneud â gweithwyr o Wlad Pwyl. Mae 15% yn ymwneud â gweithwyr o Slofacia.

Nifer o weithwyr gafodd eu cofrestru yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2007 yn ôl y wlad y daethon nhw ohoni. Ffynhonnell Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae wyth rhan o ddeg o'r gweithwyr ymfudol sydd wedi'u cofrestru trwy'r cynllun rhwng 18 a 34 oed.

Anawsterau gweithwyr ymfudol yng Nghymru

Does dim arolwg na dadansoddiad cynhwysfawr wedi'i wneud eto am brofiadau amryfal gweithwyr ymfudol o ran gwasanaethau cyhoeddus a'r cymunedau lle maen nhw'n byw.

Gall newid sydyn ac annisgwyl yn natur y boblogaeth fod yn gythryblus ac achosi tyndra, problemau a phryderon am gystadlu. Mae gweithwyr ymfudol yn agored i droseddau o achos eu tras ac er bod tuedd i osgoi rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau o'r fath, mae gwaith yn mynd yn ei flaen mewn rhai rhannau o Gymru i nodi ymosodiadau ar bobl o Wlad Pwyl a gwledydd eraill dwyrain Ewrop.

Mae gan gynghorau cydraddoldeb hiliau Cymru hyn a hyn o dystiolaeth lafar am broblemau gweithwyr ymfudol ynghylch:

  • cyflogwyr diegwyddor;
  • dim digon o Gymraeg na Saesneg;
  • gwasanaethau anaddas mewn rhai achosion.

Gall problemau o'r fath ynysu gweithwyr ymfudol ac effeithio ar eu gallu i gyflawni eu llawn dwf a chymathu yng nghymunedau Cymru. 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr wedi cyhoeddi canllawiau am arferion da i helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill i ymateb mewn modd cadarnhaol a rhagweithredol i ymfudwyr. Cewch chi godi'r canllawiau trwy cyhoeddiadau perthynol isod.

TUC Cymru, Cyfreithwyr Thompson, Unison, Unite a GMB

Mae TUC Cymru, Cyfreithwyr Thompson, Unison, Unite a GMB newydd gyhoeddi adroddiad sy'n edrych ar brofiadau gweithwyr ymfudol yn y gwaith. Gwelwch cyhoeddiadau perthynol isod am gopi o'r adroddiad.

Sefydliad Joseph Rowntree 

Cynhaliodd y sefydliad ymchwil helaeth am fywydau gweithwyr tu allan i'r gwaith. Gwelwch cyhoeddiadau perthynol am gopi o'r ymchwil.

Safbwynt yr awdurdodau lleol am weithwyr ymfudol yng Nghymru

Mae sawl awdurdod lleol yn dweud bod mewnfudwyr o'r 8 gwlad yn hollbwysig i gynnal cwmnïau lleol, gwneud iawn am brinder medrau ac ychwanegu at gynnyrch economi'r fro.

Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd trefnu a chynnal gwasanaethau i weithwyr ymfudol o achos diffyg gwybodaeth am nifer, natur a thueddiadau gweithwyr o'r fath yn eu hardaloedd.

Mae WLGA o'r farn bod eisiau llunio polisïau a gwasanaethau i weithwyr ymfudol yn ôl eu hawliau, gan gydnabod cyfrifoldebau a hawliau'r gweithwyr hynny a'r cymunedau sy'n eu croesawu fel ei gilydd ynghylch cyfleoedd teg a chyfartal i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Bydd trafodaeth synhwyrol, yn ôl yr wybodaeth a'r hawliau perthnasol, o'r dechrau yn helpu i gywiro cyd-destun negyddol llawer o'r dadleuon presennol am weithwyr ymfudol. Am ragor am lunio polisïau i fewnfudwyr yn ôl eu hawliau gwelwch cyhoeddiadau perthynol isod.

Rhaid gofalu bod arian ychwanegol ar gael i ardaloedd yng Nghymru lle mae natur y boblogaeth yn newid yn sydyn, a hynny yn ystod y flwyddyn mae'r newid yn digwydd. Gwelwch cyhoeddiadau perthynol isod i weld ymateb WLGA i ymchwiliad y Cynulliad i anghenion a phrofiadau gweithwyr ymfudol a'u teuluoedd.

Mae rhagor o wybodaeth gan: