Mae diogelu pobl rhag anffafrio yn ôl eu tueddfryd rhywiol yn agwedd newydd ar y gyfraith ynghylch cydraddoldeb. Mae'n berthnasol i gyflogaeth a hyfforddiant dan amodau Rheoliadau 'Cyflogaeth' (Tueddfryd Rhywiol) 2003.
Gan nad oes deddf i ddiogelu hawliau lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol a'u diogelu nhw rhag anffafrio, bu ymateb dewisol i'w hanghenion nhw. Gan fod pwyslais newydd ar hawliau'r dinesydd ac ymdrech i herio anffafrio sefydliadol, fodd bynnag, bydd rhaid i'r awdurdodau ystyried cydraddoldeb ac amrywioldeb yn bynciau craidd. Rhaid ymgysylltu â chymunedau sydd ar yr ymylon neu sy'n anodd eu cyrraedd er mwyn cyflawni eu dyletswyddau ynglŷn â chynllunio cymunedol a gwella.
Yn sgîl cyflwyno partneriaethau cymunedol, bydd gofyn i bob awdurdod lleol ymaddasu ac ymateb i'r maes newydd yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paula Walters
