Dylai fod o leiaf un pwyllgor trosolwg a chraffu gan bob un o 22 awdurdod unedol Cymru, er eu bod yn eu galw'n 'ffora', 'byrddau' neu 'baneli' weithiau. Mae mwy nag un pwyllgor o'r fath gan y rhan fwyaf o awdurdodau. Diben y pwyllgorau yw archwilio penderfyniadau gweithredwyr y cyngor yn ogystal â chadw llygad ar y gwaith, helpu i lunio polisïau a bwrw golwg ar faterion sy'n effeithio ar fro'r awdurdod a'i thrigolion. Dyw pwyllgorau trosolwg a chraffu ddim yn ymwneud â phenderfynu fel y cyfryw ond maen nhw'n cael cynnig argymhellion i'r bwrdd gweithredol a'r cyngor llawn.
Ar y cyd â'r Ganolfan dros Graffu Cyhoeddus, mae WLGA yn parhau i gynnig amryw wasanaethau i helpu i ddatblygu swyddogaeth trosolwg a chraffu yng Nghymru, gan gynnwys cymorth arbennig i awdurdodau unigol, cyhoeddiadau a rheoli a chydlynu rhwydweithiau lleol a rhwydwaith gwladol yr hyrwyddwyr craffu.
Mae rhagor o wybodaeth am graffu megis cyhoeddiadau, adroddiadau o adolygiadau craffu Cymru, Lloegr a'r Alban a chylchoedd trafod am y pwnc ar wefan y Ganolfan dros Graffu Cyhoeddus www.cfps.org.uk
Mae WLGA wrthi'n paratoi cyfres o lawlyfrau am arferion ar y cyd â'r rhai sy'n ymwneud â'r maes ledled Cymru a byddan nhw ar gael yma ar ôl inni eu gorffen. Dyma'r agweddau sydd i'w trafod: 'Craffu ynglŷn â chyllidebau a phroses eu pennu', 'Datblygu meddylfryd craffu' a 'Craffu: Cymhelliant i weithio'n well’.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Buckle
