Ar gyfartaledd, mae treth y cyngor yn ariannu 20% o wariant pob cyngor. Ynglŷn â faint mae pobl yn ei dalu, mae hynny'n dibynnu ar werth eu cartrefi ac a oes hawl i gymorth ariannol gyda nhw.
Gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i Asiantaeth y Swyddfeydd Prisio ailbrisio pob cartref yng Nghymru ar gyfer 2005/06, yr ailbrisio cyntaf ers i dreth y cyngor gael ei chyflwyno ym 1993. Ar ben hynny, cafodd ffiniau pob dosbarth eu hadolygu.
Dyma'r dosbarthau ar hyn o bryd:
- A. o dan £44,000
- B. £44,001 - £65,000
- C. £65,001 - £91,000
- D. £91,000 - £123,000
- E. £123,000 - £162,000
- F. £162,000 - £223,000
- G. £223,001 - £324,000
- H. £324,001 - £424,000
- I. £424,001 a throsodd


