Cydraddoldeb hiliau
Mae cydraddoldeb hiliau yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf a gwella ansawdd bywyd pawb. O ganolbwyntio ar anghenion y dinasyddion, rhaid cydnabod bod yr anghenion hynny'n amrywio yn ôl sefyllfa'r bobl dan sylw. Un o'r prif ffactorau ynghylch moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yw deall anghenion yr amryw gymunedau croenddu a lleiafrifol a gofalu eu bod nhw'n cael pob parch a chyfle teg.
Deddf 'Cydberthynas Hiliau' 1976
Cafodd y ddeddf ei chyflwyno ym 1976 i roi fframwaith cyfreithiol a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â hiliaeth yn y gymdeithas. Yn ôl y ddeddf, chaiff neb anffafrio rhywun (boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) o achos ei dras, ei liw, ei genedl neu ei darddiad cenhedlig ym meysydd:
- Cyflogaeth
- Addysg
- Tai
- Darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond pobl groenddu neu leiafrifol mae'r ddeddf yn eu diogelu, ond dyw hynny ddim yn wir. Mae'r ddeddf wedi'i sefydlu i ddiogelu pawb rhag anffafrio hiliol.
Deddf (Ddiwyg.) 'Cydberthynas Hiliau' 2000
Daeth y ddeddf i rym fis Ebrill 2001. Mae'n cryfhau ac yn ehangu Deddf 'Cydberthynas Hiliau' 1976, er nad yw'n ei disodli, ac yn datgan bod rhaid i bob awdurdod cyhoeddus ystyried y canlynol wrth gyflawni ei ddyletswyddau:
- Cael gwared ar anffafrio hiliol
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal
- Hyrwyddo cydberthynas dda rhwng hiliau
Mae'r tri phwynt isod yn ymwneud â'r 'ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo cydraddoldeb hiliau'. Cyflwynodd y ddeddf ddyletswyddau penodol, hefyd, ar gyfer awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau unedol), sef:
- Paratoi cynllun cydraddoldeb hiliau – pennu'r drefn ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.
- Dyletswydd cyflogaeth – mae gofyn i bob awdurdod sefydlu trefn i gadw llygad ar arferion cyflogaeth a'u hadolygu er cydraddoldeb yr hiliau.
O gyflawni'r dyletswyddau cyffredinol a phenodol, rhaid i bob awdurdod:
- Cyflawni'r ddyletswydd i hybu cydraddoldeb hiliau ym mhob swyddogaeth a pholisi perthnasol.
- Ystyried y pwysigrwydd sydd i'w roi i gydraddoldeb hiliau, yn ôl ei berthnasedd.
I wneud hynny, rhaid i bob sefydliad:
- Ymgynghori â chylchoedd croenddu a lleiafrifol lleol am ei bolisïau.
- Monitro ac asesu effaith bosibl ei bolisïau ar y cylchoedd hynny.
- Gweithredu fel y bo'n briodol yn ôl y canlyniadau.
Mae disgwyl y bydd gofynion y ddeddf (y dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel ei gilydd) yn galluogi pob sefydliad i roi ar waith drefniadau a fydd, ymhen amser, yn herio hiliaeth sefydliadol a hwyluso newidiadau yn ei feddylfryd fel y bydd deilliannau cadarnhaol i bobl leol a chymunedau croenddu a lleiafrifol.Mae pob awdurdod lleol wedi paratoi cynllun cydraddoldeb hiliau sy'n amlinellu'r camau mae rhaid eu cymryd i ofalu ei fod yn ystyried materion tras wrth lunio polisïau a dod i benderfyniadau.Mae copïau o gynllun cydraddoldeb hiliau gan bob awdurdod.
