Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Diogelwch yn y gymuned / Trais yn y cartref
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Trais yn y cartref

Mae trais yn y cartref yn effeithio ar bobl o bob lliw a llun. Gall trais o'r fath fod yn gorfforol, yn deimladol neu'n rhywiol. Er bod y rhan fwyaf o'r rhai sy'n dioddef yn ferched, gall effeithio ar ddynion, plant a phobl ifainc sy'n byw mewn cartrefi treisgar, hefyd. Mae'r rhan fwyaf o ffurfiau'r trais yn droseddau ond, i fynd i'r afael â nhw, rhaid i nifer mawr o asiantaethau a gwasanaethau, gan gynnwys byd llywodraeth leol, gymryd camau yn ogystal â'r heddluoedd a'r cyrff cyfiawnder troseddol.

Yn 2010, fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched, 'Yr Hawl i Fod yn Ddiogel'. Mae pedair blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth:

  • Atal trais yn erbyn merched a thrais yn y cartref a chodi ymwybyddiaeth ohono.
  • Rhoi cymorth i'r merched sydd wedi dioddef a'u plant nhw.
  • Gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol.
  • Gwella ymateb gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill.

Mae llawer o'r nodau a'r amcanion sydd yn y strategaeth yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth San Steffan, 'Together We Can End Violence Against Women and Girls,’ ac ynddi amryw gamau y dylai cyrff sydd heb eu datganoli eu cymryd yn ogystal â rhai gofynion a fydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr ym maes cyfiawnder troseddol. 

Bydd partneriaethau diogelwch cymunedol yn hanfodol i lwyddiant 'Yr Hawl i Fod yn Ddiogel’. Mae'r partneriaethau'n cyflawni sawl gorchwyl yn barod ynglŷn â thrais yn y cartref. Mae trefniadau cydlynu camau yn erbyn trais yn y cartref yn yr awdurdodau lleol a'r partneriaethau wedi'u cryfhau'n fawr trwy benodi cydlynydd ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad. Un o brif rolau'r cydlynwyr yw trefnu ffora lleol sy'n paratoi strategaethau a chynlluniau ar gyfer y fro.

Yn ogystal â'r ‘Hawl i Fod yn Ddiogel’, mae nifer o fentrau gwladol eraill i geisio datrys y broblem, gan gynnwys:

  • Cyflwyno cynadleddau asesu risgiau ymhlith asiantaethau
  • Sefydlu llysoedd arbennig i drin a thrafod achosion o drais yn y cartref
  • Agor nifer o ganolfannau atgyfeirio ynghylch ymosodiadau rhywiol

One step too far

Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman