Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Trafnidiaeth
 

Trafnidiaeth

Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am drafnidiaeth, ffyrdd, cynnal y strydoedd a llif cerbydau. Mae trafnidiaeth yn derm eang sy'n cwmpasu cynnal a chadw pontydd ac adeiladau tebyg, diogelwch ar y ffyrdd, cludiant cyhoeddus, cludiant bro, cynllunio i drafnidiaeth, rheoli traffig, rheoli tagfeydd, cydlynu gwaith cyfleustodau ac ati (nid rhestr gynhwysfawr mo hyn).

Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am 32,000 km o ffyrdd Cymru, sef 95% o holl rwydwaith y ffyrdd. Y Cynulliad sy'n gyfrifol am y cefnffyrdd a'r traffyrdd.

Mae Deddf 'Trafnidiaeth' 2000 yn gofyn i bob awdurdod lleol lunio polisi ar gyfer trafnidiaeth ddiogel, cyfun ac effeithlon yn ei fro. Mae Deddf 'Rheoli Traffig' 2004 yn gofyn i bob awdurdod lleol alluogi gyrwyr i deithio'n hwylus yn ei ardal.

I ateb gofynion y deddfau, mae rhaid i'r cynghorau weithio ar y cyd â chwmnïau trenau a bysiau, byd adeiladu, cyrff cynllunio, cyfleustodau, cylchoedd trafnidiaeth ac, yn anad dim, ei gilydd. Mae'r 22 awdurdod lleol yn cymryd rhan mewn cyfungyrff rhanbarthol ar gyfer ateb problemau trafnidiaeth mewn modd cydlynol, cyfoes, cyfun ac effeithiol. Mae pedwar cyfungorff rhanbarthol yng Nghymru:

  • SWWITCH (Y de-orllewin)
  • SEWTA (Y de-ddwyrain)
  • Taith (Y gogledd)
  • TRaCC (Y canolbarth)

Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Jowitt