Mae trafnidiaeth yn bwysig i bawb yng Nghymru am fod pob gwasanaeth yn dibynnu arni rywfaint. Mae sawl corff a chwmni'n ymwneud â'r maes ac mae'r sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol yn cyflawni rolau gwahanol sy'n cydblethu.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y traffyrdd a'r cefnffyrdd ac arnyn nhw draean o drafnidiaeth y ffyrdd yng Nghymru. Mae'n rheoli rhyddfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau hefyd, ac yn rhoi grantiau ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth yr awdurdodau lleol.
Rôl yr awdurdodau lleol
Dyma swyddogaethau'r cynghorau ynglŷn â thrafnidiaeth a ffyrdd (ac eithrio traffyrdd a chefnffyrdd):
- cynllunio ar gyfer ffyrdd
- cynnal a chadw ffyrdd a phalmantau
- cynnal a chadw ffyrdd yn ystod y gaeaf
- rheoli trafnidiaeth
- cynnal a chadw pontydd ac adeiladau eraill
- diogelwch y ffyrdd
- cerdded/seiclo
- gwasanaethau bysiau lleol a mathau eraill o gymorth i gludiant cyhoeddus
- cynnal a chadw'r strydoedd
- goleuo'r strydoedd
- cynlluniau cludo cymunedol
- meysydd parcio ceir
Mae'r cynghorau'n cyflawni'r swyddogaethau hynny yn ôl Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (2008) a'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (2010) a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol wedi'u cyhoeddi gan bedwar consortiwm Cymru:
- SEWTA – Cynghrair Trafnidiaeth y De-ddwyrain
- SWWITCH – Consortiwm Trafnidiaeth Gyfun y De-ddwyrain
- TRaCC – Trafnidiaeth Canolbarth Cymru
- Taith – Consortiwm Trafnidiaeth y Gogledd
Mae'r consortia hynny dros drafnidiaeth ranbarthol yn gydbwyllgorau sy'n rhan o fyd llywodraeth leol. Cynghorwyr lleol a swyddogion arbenigol yw eu haelodau. Gan fod cerbydau'n symud ar draws ffiniau gweinyddol ac mae angen cyfuno gwasanaethau trafnidiaeth ledled y wlad o ganlyniad, mae cydweithio o'r fath yn hanfodol.
Ffeithiau allweddol
- Mae tua 1,700 km o gefnffyrdd yng Nghymru gan gynnwys y rhai mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli.
- Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am ryw 32,000 km o briffyrdd a ffyrdd.
- Mae 70% o deithiau'n llai na 5 milltir.
- Gyda'r car y byddwn ni'n teithio gan amlaf (bron 80% o'r milltiroedd i gyd).
- Mae 14% o'r nwyon tŷ gwydr yn gynnyrch trafnidiaeth ac mae 90% yn deillio o drafnidiaeth y ffyrdd.
- Ar gyfartaledd, bydd tua 1,000 o deithiau yn ôl y pen bob blwyddyn yng Nghymru. Teithiodd pob un ohonon ni 12,200 km ar gyfartaledd yn 2004/05 (o'i gymharu ag 11,300 km ym 1995/97).
- Mae trafnidiaeth y ffyrdd yn cynyddu yng Nghymru ond gostyngodd nifer y damweiniau at 7,126 yn 2009 (o'i gymharu ag 11,822 yn 1990 a 7,784 yn 2008), ac mae nifer y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu wedi gostwng at y lefel isaf ers dechrau cofnodi'r wybodaeth honno ym 1968.
Rhagor o wybodaeth


