Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Gwasanaethau rheoleiddio / Safonau masnach
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Safonau masnach

Ers amser maith, mae gwasanaethau safonau masnach y cynghorau wedi gwneud gwaith pwysig yn amddiffyn lles economaidd y gymuned leol. Adrannau ‘pwysau a mesurau’ oedden nhw’n wreiddiol yn cyflogi arolygwyr i archwilio offer a nwyddau mewn siopau a marchnadoedd. Erbyn hyn, maen nhw wedi’u trawsnewid yn rhan bwysig ac annatod o fyd llywodraeth
leol modern. Mae cylch gorchwyl gwasanaethau safonau masnach yn enfawr ac yn ymwneud â

  • safonau bwyd, masnachu teg, twyll,
  • benthyca arian yn anghyfreithlon, lladrata,
  • rheoli iechyd anifeiliaid fferm a gwerthu nwyddau I blant.
  • Maen nhw hefyd yn ymwneud â llu o feysydd eraill gan gynnwys adfer asedau gan droseddwyr sydd wedi elwa’n ariannol yn sgîl eu troseddau.

Mae hyn i gyd yn eu galluogi nhw I ddylanwadu a chyfrannu at amrywiaeth eang o flaenoriaethau lleol gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd a chreu cymunedau mwy diogel.

O ganlyniad i hyn, mae gwasanaethau safonau masnach y cyngor wedi datblygu dull arloesol I gyflawni amrywiaeth o swyddogaethau sy’n cynnwys cannoedd o gamau deddfwriaethol. Cryfhau dulliau cynorthwyo rhanbarthol/cenedlaethol fu’r datblygiad pwysicaf yn ddiweddar, yn ogystal â dyfodiad gwasanaethau cydlynol cenedlaethol megis Unedau Gorfodi yn erbyn Benthyca Arian yn Anghyfreithlon a Thimau Atal Troseddau Twyll. Mae Safonau Masnach wedi gwella gwasanaethau drwy gydlynu arolygiadau, archwiliadau ac edrych ar enghreifftiau, yn ogystal â chynnig fforwm i rannu arbenigedd ac osgoi dyblygu ymdrechion. Maen nhw hefyd wedi rhoi gwasanaethau ar ran eu cynghorau lleol gan gynnwys hyfforddiant, canllawiau safonol a chyflwyno gwasanaeth Cyswllt Defnyddwyr (sy’n rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar y we). Yn sgîl hyn i gyd, mae safonau masnach wedi parhau’n wasanaeth lleol a hollbwysig sy’n gallu cydweithio â phob rhan o’r gymuned wrth fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys lles anifeiliaid, arian ffug a
lladrata, troseddau ar garreg y drws, yr amgylchedd, bwyd, twyll, iechyd, diogelwch cynnyrch, troseddau twyll a gwerthu nwyddau i blant.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Wilkinson