Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Twristiaeth a Lleoedd o ddiddordeb hanesyddol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Twristiaeth a Lleoedd o ddiddordeb hanesyddol

Old Coal Mine

© Crown copyright (2012) Visit Wales

Mae ymwelwyr sy'n aros yng Nghymru dros nos yn gwario bron £2 biliwn y flwyddyn ac mae'r rhai sy'n ymweld â'r wlad ar gyfer diwrnod yn ychwanegu £1.5 biliwn at yr economi bob blwyddyn.

Mae'r awdurdodau lleol yn hanfodol ynglŷn â helpu pobl i fwynhau ymweliad â Chymru. Er nad yw twristiaeth yn un o'u swyddogaethau statudol, mae'r awdurdodau lleol yn cymryd eu rôl yn y maes hwn o ddifrif – yn arbennig yn yr ardaloedd lle mae ymwelwyr yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi. Mae rôl bwysig i'r awdurdodau lleol ynglŷn â hyrwyddo eu hardaloedd dros y byd a rhoi gwybodaeth a gwasanaethau arwyddbyst i'r rhai hoffai ymweld â nhw.

At hynny, mae'r awdurdodau lleol yn ymwneud â sawl gorchwyl sy'n effeithio ar ymwelydd megis caniatâd cynllunio, hawliau tramwy/mynediad, llif ceir, cludiant, cyfleusterau cyhoeddus ac ansawdd yr amgylchedd.

Ar hyn o bryd, mae'r 22 awdurdod lleol yn gweithio yn ôl 14 ardal farchnata. Mae'r ardaloedd hynny'n cyhoeddi eu deunyddiau marchnata a'u gwefannau eu hunain ac yn ymateb i ymholiadau. Mae canolfannau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr yn gyfleusterau pwysig eraill mae sawl awdurdod yng Nghymru yn eu cynnig, hefyd.

Mae olion yn ein trefi a ledled ein tirwedd yn dangos sut mae pobl wedi byw yma dros y blynyddoedd.

Ymhlith yr atyniadau mae sawl safle a chofeb o bwys archeolegol yn ogystal ag adeiladau, cymunedau, parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol gan gwmpasu popeth y gall pobl ei greu boed dref, cadeirlan, castell, ffordd, arwyddbost, carreg filltir neu arf cyntefig.

Mae'n diwylliant ni'n amlwg mewn lleoedd o'r fath. Gallen nhw sbarduno adfywio a chyfrannu'n fawr at ansawdd bywydau pobl. Mae rôl hollbwysig i awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn â diogelu'r lleoedd hynny ac ymgysylltu â chymunedau.

Mae WLGA yn aelod o'r Cylch dros yr Amgylchedd Hanesyddol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru am gamau y dylai eu cymryd i ddiogelu a hyrwyddo atyniadau hanesyddol Cymru.