Swyddogaeth byd llywodraeth leol
Mae Deddf 'Gwasanaethau Tan ac Achub' 2004 yn gofyn i bob awdurdod tân ac achub gynnal gwasanaeth sy'n gallu ymateb yn effeithiol i geisiadau am gymorth yn achos tân a sawl argyfwng arall. Hanfod awdurdod tân ac achub yw cynghorwyr mae awdurdodau lleol y rhanbarth perthnasol yn eu henwebu i'w cynrychioli ynddo. Mae'r gwasanaeth tân yn un o gyfrifoldebau'r awdurdodau lleol er 1948 ac, er bod cyfrifoldeb cyffredinol ar y Cynulliad am y gwasanaethau tân ac achub, mae'r cyfrifoldeb yn ymwneud â democratiaeth leol ym mhob bro.
Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru:
- Awdurdod y Canolbarth a'r Gorllewin: Prif Swyddog Tân: Mr Richard Smith Cadeirydd: Y Cyng Cheryl Philpott
- Awdurdod y Gogledd: Prif Swyddog Tân: Mr Simon Smith Cadeirydd: Y Cyng Sharon Frobisher
- Awdurdod y De: Prif Swyddog Tân: Mr Andy Marles Cadeirydd: Y Cyng Anthony M Ernest
Y gwasanaethau tân ac achub sy'n bennaf cyfrifol am faterion tân ac achub. Er mai dim ond diffodd tanau oedd eu swyddogaeth ynghynt, maen nhw'n gyrff rhagweithredol bellach sy'n ymwneud ag atal tanau, marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau, ac argyfyngau megis damweiniau ffyrdd, gollwng cemegion a llifogydd. Hanfod y ddau nod hynny, sef atal ac ymateb, yw canolbwyntio ar addysg am gadw'n ddiogel rhag tân a chydweithio â phartneriaid lleol megis partneriaethau diogelwch y gymuned er mwyn cyfrannu'n sylweddol i faterion cymunedau diogel yng Nghymru.
Materion pwysig
Mae'r Cynulliad yn gyfrifol am wasanaethau tân ac achub Cymru er mis Tachwedd 2004. Mae ‘Fframwaith Tân ac Achub Cymru’ yn amlinellu delfryd a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tri awdurdod tân ac achub y wlad. Dyma’r tair blaenoriaeth sydd wedi’u pennu ynddo:
- Rhoi gwasanaethau statudol fydd yn diogelu cymunedau ac yn diwallu eu hanghenion lleol trwy rannu adnoddau a gwneud y gorau ohonyn nhw. I’r perwyl hwnnw, bydd angen rhagor o gyfuno, cyfranogi a chydweithio rhwng yr awdurdodau tân ac achub a’r sector cyhoeddus ehangach.
- Cryfhau materion cydraddoldeb ac amrywioldeb i ofalu bod pob awdurdod tân ac achub yn cynrychioli’r cymunedau amryfal mae’n eu gwasanaethu ac yn ymgysylltu’n llawn â nhw fel y gall gyflawni ei swyddogaethau statudol ac anstatudol.
- Datblygu cadernid y wlad.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


