Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn bwrw golwg dros y digwyddiadau diwethaf yn Ewrop sydd yn ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (ICT). Mae gwaith yr UE ym maes ICT yn bwysig i lywodraeth leol yng Nghymru gan fod y Comisiwn Ewropeaidd o'r farn mai llywodraeth leol a rhanbarthol ddylsai darparu technoleg newydd e-lywodraeth yn bennaf. Mae'r Comisiwn hefyd yn cefnogi mentrau i symleiddio'r ffyrdd y mae Aelodau'r UE yn cymryd at faterion ICT, a all hefyd effeithio'r ffyrdd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio gyda ICT yn ddyddiol.
ICT a Phwyllgor y Rhanbarthau
Ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009 cynorthwyodd Swyddfa Ewropeaidd WLGA ein aelod ar Bwyllgor y Rhanbarthau (CoR) UE, y Cyng. Bob Bright, ar ei rôl fel 'rapporteur' ar Gyfarwyddiad Gwasanaeth Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar delathrebu. Apwyntiodd Pwyllgor Diwylliant, Addysg ac Ymchwil (EDUC) y Cyng. Bright i arwain ar yr ymateb i adolygiad y Cyfarwyddiad Gwasnaeth Cyffredinol 2003, sydd ar hyn o bryd yn sicrhau fod rheolyddion megis OFCOM yn darparu llinellau ffôn a mynediad i rifau argyfwng ar gyfer pob dinesydd yr UE.
Mae Opiniwn y Cyng. Bright yn cefnogi cyhoeddiad y Comisiwn i sicrhau fod band llydan yn wasanaeth cyffredinol cyffredin, gan ddadlau y dylsai band llydan fod yn 'bedwaredd wasanaeth' yn unol gyda darpariaeth trydan, nwy a dŵr. Yn ei Opiniwn, mae'r Cyng. Bright yn gofyn am ddeddfwriaeth cadarn er mwyn tynnu sylw at y 'mannau gwan' cyfathrebu waradwyddus, fel sydd yng Nghymru gwledig. Gan orffen ei rôl llwyddiannus fel 'rapporteur' yn ystod cyfarfod llawn CoR ar 13eg Chwefror 2009, mae'r Cyng. Bright wedi rhoi nifer o argymhellion ddefnyddiol i'r Comisiwn cyn i'r Cyfarwyddiad gael ei ail-ddrafftio yn 2010. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yn y datganiad i'r wasg parthed rôl y Cyng. Bright fel 'rapporteur', yn ogystal â rhan datganiadau i'r wasg WLGA.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


