Mae tai fforddiadwy o safon yn hollbwysig ynglŷn â chyflawni blaenoriaethau ehangach byd llywodraeth leol mewn meysydd megis iechyd a lles, diogelwch cymunedol, adfywio a gofal cymdeithasol.
Rhaid i gyngor weithio yn ôl strategaeth gorfforaethol gyfun wrth drin a thrafod materion tai. Er enghraifft, pe bai'n methu â rhoi gwasanaethau priodol o ran budd-daliadau, gallai fod rhagor o bobl heb gartref. Yn yr un modd, pe bai'n methu â chynnig gwasanaethau priodol i gartrefu pobl hŷn, gallai fod rhagor o bwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae'n hanfodol i weithgareddau pob cyngor, o ran tai, gydblethu â'i wasanaethau eraill.
Er bod tai gan nifer o gynghorau Cymru o hyd, mae sawl cyngor wedi trosglwyddo ei stoc i gymdeithasau tai ar ôl i'r tenantiaid bleidleisio dros hynny.
Mae'n anochel y bydd marchnadoedd tai, cymunedau a blaenoriaethau lleol yn amrywio ledled y wlad ond mae pob ardal yn wynebu'r un anawsterau:
- Prinder tai ar osod neu ar werth am bris rhesymol.
- Tai mewn cyflwr gwael, yn arbennig tai preifat.
- Digartrefedd.
- Angen cymorth ynglŷn â thai ar bobl sy'n agored i niwed.
- Angen mwy a mwy o dai ar bobl hŷn.
Mae rôl pob cyngor ynglŷn ag arwain ei gymuned yn hanfodol i ddatrys yr anawsterau hynny. Bydd rhaid asesu anghenion yr ardal o ran tai, cynllunio'n strategol i'w diwallu a chydweithio'n fewnol ac yn allanol i ofalu bod tai fforddiadwy o safon ar gael i bawb.
Gall cynghorau gynnig rhai gwasanaethau, megis cynghori am dai, yn uniongyrchol ond dim ond trwy weithio ar y cyd ag amryw bartneriaid megis cymdeithasau tai, landlordiaid preifat a mudiadau gwirfoddol y bydd modd diwallu'r rhan fwyaf o anghenion.
Mae cynghorau'n cyflawni amrywiaeth helaeth o orchwylion ym maes tai megis:
- Asesu marchnad tai'r ardal, gan gynnwys y sectorau gwladol a phreifat fel ei gilydd, a darparu ar gyfer anghenion pob carfan o'r gymuned.
- Cydweithio ag adeiladwyr a chymdeithasau tai i roi tai fforddiadwy newydd ar osod ac ar werth.
- Rheoli, cynnal a chadw'r tai mae'r cyngor yn berchen arnyn nhw a gofalu eu bod yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru.
- Dyrannu tai cymdeithasol ymhlith y rhai mwyaf anghenus yn ôl cofrestr y cyngor neu gofrestr gyffredin.
- Rhoi gwasanaethau atal digartrefedd gan gynnwys cynghori am y dewisiadau.
- Cynnig cartrefi dros dro ac yn barhaol lle nad oes modd osgoi digartrefedd.
- Comisiynu cymorth i helpu pobl sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol.
- Diwallu anghenion pobl hŷn ym maes tai ac mewn meysydd perthynol gan gynnwys cynnig tai lloches, cynlluniau gofal ychwanegol a gwasanaethau teleofal.
- Helpu preswylwyr isel eu hincwm i atgyweirio a gwella eu tai.
- Mynd i'r afael â chynnal a chadw/rheoli gwael a gorlenwi ymhlith tai preifat a thrwyddedu tai mae mwy nag un preswylydd ynddyn nhw.
- Helpu pobl mae angen cartref arnyn nhw i rentu tai preifat trwy gynlluniau rhentu a phrydlesu.
- Addasu tai yn ôl anghenion pobl anabl.
- Rhoi tai gwag ar gael i'w defnyddio eto.
- Adfywio cymdogaethau a gwella tai hŷn.
- Gweinyddu budd-dal tai.
Ffeithiau allweddol
- Cafodd traean o dai Cymru eu codi cyn 1919.
- Roedd canran y tai mewn cyflwr anaddas wedi gostwng at ryw 4% yn 2007 o'i chymharu â bron 20% ym 1986.
- Mae 16% o gartrefi Cymru yn dai cymdeithasol (cynghorau a chymdeithasau tai), mae 14% yn eiddo landlordiaid preifat ac mae 70% yn eiddo eu trigolion.
- I bob £1 sy'n cael ei gwario ar gynorthwyo pobl, bydd y sector cyhoeddus yn arbed £1.68.
Rhagor o wybodaeth


