Mae tai fforddiadwy o safon wedi’u lleoli mewn cymunedau cynaladwy’n cael eu cydnabod yn gynyddol fel sylfaen i lwyddiant amrediad eang o feysydd polisi cyhoeddus gan gynnwys iechyd a lles, addysg, ffyniant economaidd ac, yn hollbwysig, yn allwedd i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol. Awdurdodau Lleol yw’r unig sefydliadau sy’n gallu bwrw golwg cyffredinol a chynhwysfawr dros anghenion a blaenoriaethau tai yn eu hardaloedd lleol, ac felly mae ganddynt ran hollbwysig i’w chwarae.
'Ymateb i’r Her' - Mynd I’r Afael Ag Anghenion Tai
Mae'r cyfrifoldeb am faterion tai wedi'i ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad ac mae WLGA yn cymryd rhan flaengar ynghylch llunio polisïau tai yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, rydyn ni'n
ymwneud â nifer o'r cylchoedd mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'u sefydlu megis:
- cylchoedd gorchwyl a gorffen dros lunio polisïau penodol;
- cylchoedd llywio prosiectau ymchwil penodol ym maes tai;
- cylchoedd parhaol sy'n llunio ac yn monitro polisïau ehangach.
Llefarydd WLGA: Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai
- Y Cyng Dyfed Edwards (Gwynedd) (Plain Cymru)
Dirprwy Lefarydd CLlLC: Tai
- Y Cyng Ron Davies (Wrecsam) (Democratiaid Rhyddfrydol)
Ymgynghorwyr WLGA
| Robin Staines | Pennaeth Gwasanaethau Tai | Cyngor Sir Gâr |
| Kenyon Williams | Rheolwr Tai'r Sector Preifat | Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
| Neil Howell | Pennaeth Tai, Perfformiad a Phartneriaethau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
| Clare Budden | Pennaeth Tai | Cyngor Sir Fynwy |
Cyfarfodydd CLlLC
- WLGA Cabinet Members' Housing Network Meeting: Dydd Mercher, 18fed Ionawr 2012 - Caerdydd
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch


