Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Tai / Tai gwledig
 

Tai gwledig

Ynghylch tai, mae bröydd gwledig Cymru yn wynebu cyfuniad unigryw o broblemau sy'n effeithio nid yn unig ar gefn gwlad go iawn ond, hefyd, ar yr awdurdodau a chanddyn nhw fröydd gwledig o fewn eu ffiniau.

Ymhlith problemau o'r fath mae cynnydd yn y galw am dai am fod mwy a mwy o bobl yn dod i'r ardaloedd, prinder tai cymdeithasol, costau uchel adeiladu tai sy'n cyfyngu ar nifer y rhai newydd sydd ar gael, a chyflogau isel. O achos y ffactorau hynny, mae mwy a mwy o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd prynu cartref.

Gan fod problemau ynghylch prisiau a nifer tai cefn gwlad yn cynyddu, mae goblygiadau difrifol o ran cynnal cymunedau, iaith, diwylliant a iechyd y bobl yno, yn ogystal ag economi ehangach cefn gwlad Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch