Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Dysgu gydol oes materion diwylliannol a / Swyddogaeth yr awdurdodau
 

Swyddogaeth yr awdurdodau

Fis Tachwedd 2002, fe gyhoeddodd y Gymdeithas 'Swyddogaeth Awdurdodau Lleol mewn Addysg yng Nghymru y Dyfodol', datganiad cadarn am waith yr awdurdodau lleol ym maes addysg a'u swyddogaeth yn yr 21ain ganrif.  Ers cyhoeddi'r ddogfen, mae rôl yr awdurdodau lleol ynghylch cynnig addysg wedi newid er bod eu rôl yn y maes yma yn un sylweddol a hanfodol o hyd.

Mae cyd-destun y polisi mae rhaid i awdurdodau lleol Cymru gadw ato wedi datblygu'n gyflym dros y 5 mlynedd diwethaf.  Yn sgîl cyhoeddi prif ddogfen Llywodraeth y Cynulliad ym maes dysgu gydol oes, 'Y Wlad sy'n Dysgu', yn 2001 ac 'Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith' yn 2006, mae'r rhaglen ar gyfer datblygu addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru dros 10 mlynedd wedi'i phennu.  Mae'r dogfennau allweddol yma'n amlinellu'r hyn mae Llywodraeth y Cynulliad am ei wneud ynghylch addysg y blynyddoedd cynnar trwy Gynllun Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen, Llwybrau Dysgu 14-19, addysg bellach, addysg uwch a hyfforddiant.

Mae Deddf 'Plant' 2004 wedi effeithio ar rôl yr awdurdodau lleol a pholisi Llywodraeth y Cynulliad, hefyd.  Mae'r ddeddf yn creu yn ardaloedd yr awdurdodau lleol bartneriaethau a fydd yn gyfrifol am ddatblygu'r gwasanaethau i blant a phobl ifainc.

I weld gwybodaeth am Ddeddf 'Plant' 2004, cliciwch ar y ddolen ar y dde.

Mae 'Y Wlad sy'n Dysgu' ar gael gan Adran Cyhoeddiadau Llywodraeth y Cynulliad: www.cymru.gov.uk

I weld gwybodaeth am Dechrau'n Deg, y Cyfnod Sylfaen a Llwybrau Dysgu 14-19, cliciwch ar y dolenni ar y de.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne