Ar hyn o bryd mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddatblygu Strategaeth Dai Leol. Mae hyn yn golygu asesu anghenion, pennu blaenoriaethau lleol a chynllunio sut y gellir diwalli’r angen am dai fforddiadwy o ansawdd da. Maent yn gweithio ar draws pob daliadaeth, ac mae ganddynt amrediad eang o bartneriaid i ofalu bod yna, o fewn eu hardal:
- sector perchennog-ddeiliad cynaladwy
- sector rhentu preifat sydd o ansawdd da, yn cael ei reoli'n dda ac yn ffynnu
- tai cymdeithasol o ansawdd da sy’n cael eu rheoli’n effeithlon ac effeithiol
Yn ogystal, mae gan awdurdodau nifer o strategaethau eraill ar waith er mwyn darparu fframwaith i’w gweithgareddau tai. Fe fydd y rhain yn cynnwys y Strategaeth Ddigartrefedd, y Gymuned Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a Chynllun Gweithredol Cefnogi Pobl. Fe fydd y strategaethau hyn yn eu tro oddi mewn i fframwaith a ddarperir gan fframwaith strategol ehangach y Cynllun Datblygu Lleol, y Strategaeth Iechyd a Lles a’r Strategaeth Gymunedol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch


