Prif amcan Swyddfa Ewropeaidd WLGA yw i roi gwerth ychwanegol i llywodraeth leol Cymru ar faterion Ewropeaidd ac i hyrwyddo ei diddordebau o fewn Ewrop. Mae’r Swyddfa yn darparu dolen bwysig rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru a Sefydliadau yr UE, datblygu cysylltiadau a chyfathrebu wedi’i seilio ar anghenion, cynigion ac ymatebion llywodraeth leol i’r hoelion wyth allweddol o fewn y Comisiwn Ewropeaidd, y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop.
Gyda dros 500 o swyddfeydd cynrychioladol yn cynrychioli dros 100k o awdurdodau lleol a rhanbarthol ar draws Ewrop, Brwsel yw prifddinas rhwydweithio a lobïo Ewrop. Wrth fod a phresenoldeb ym Mrwsel mae WLGA yn medru gosod tîm parhaol ‘ar y llawr’, gan ddarparu gwybodaeth wedi’i thargedu a gwybodaeth “llygaid a chlustiau” ar y gweithgareddau a datblygiadau polisi diweddaraf yr UE.
Mae’r Swyddfa yn ceisio annog a chynyddu cydweithrediad awdurdodau lleol Cymru gydag Ewrop, ac Ewrop gyda’r awdurdodau lleol; rhwydweithio ar ran awdurdodau lleol ar y lefel Ewropeaidd; hyrwyddo cyfleoedd partneriaeth traws-ffiniau, rhyng-ranbarthol a thraws-genedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol; a monitro proses ddeddfwriaethol yr UE o’r dechrau i’r diwedd, gan alluogi dylanwad awdurdodau lleol i ddod i’r amlwg ar adegau allweddol yn ystod y broses lobïo.
Er mwyn cyfrannu at wasanaethau corfforaethau ac adrannau polisi WLGA a phwysleisio datblygiadau allweddol yr UE mewn ystod eang o faterion polisi i cyfeillion perthnasol, mae’r Swyddfa yn gweithio’n agos gyda Rheolwr Tîm Ewrop ac Adfywio WLGA a leolir yn Swyddfa Caerdydd WLGA.
Cefnogir Tîm Ewropeaidd WLGA gan Ymgynghorwyr Ewropeaidd WLGA, ymarferwyr arbenigol mewn gweithredu rhaglenni a chronfeydd yr UE ar y llawr:
• Neville Davies (Cyngor Sir Gâr)
• Peter Mortimer (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)
• Filippo Compagni (Cyngor Sir Powys)
• Sasha Davies/Aled Davies (Cyngor Sir Ynys Môn)
Mae Tîm Ewropeaidd WLGA yn rhoi cefnogaeth i’w Haelodau o fewn y Sefydliadau Ewropeaidd:
Pwyllgor y Rhanbarthau
• Cyng. Chris Holley (Llefarydd Ewrop ac Adfywio WLGA ac Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe)
• Cyng. Bob Bright (Cyngor Dinas Casnewydd)
Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop
• Cyng. Ronnie Hughes (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)


